Published on:
31 Hydref 2023
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i'w Gynllun Iaith Gymraeg, mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Monitro Blynyddol 2023.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd i Gomisiynydd y Gymraeg, yn amlinellu'r cynnydd y mae MaPS wedi'i wneud rhwng 17 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2023.
Yn benodol, mae'n edrych ar sut mae MaPS wedi darparu gwasanaethau cyhoeddus yn unol â'i Gynllun Iaith Gymraeg ac yn nodi unrhyw feysydd i'w gwella.
Mae'r adroddiad, sydd ar gael i'r cyhoedd trwy wefan MaPS, yn amlinellu'r hyn a gyflawnwyd dros y 12 mis hynny, gan gynnwys cwblhau 12 cam gweithredu a gynlluniwyd yn llwyddiannus ac ar amser.
Mae'r rhain yn cynnwys recriwtio arbenigwyr pensiynau sy'n siarad Cymraeg sydd, ynghyd â'n harbenigwyr Arweiniad Arian presennol, bellach wedi derbyn dros 300 o alwadau. Roedd eraill yn cynnwys sefydlu Gwesgwrs, darparu agweddau ar arweiniad arian trwy WhatsApp a chreu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol pwrpasol, i gyd yn Gymraeg.
Mae fersiwn Gymraeg o wasanaeth MoneyHelper MaPS, HelpwrArian, hefyd ar gael ac roedd gan ei dudalennau wedi cael dros 33,000 o ymweliadau unigryw y llynedd.
Yn ogystal, cyhoeddodd MaPS holl gynnwys i’r cyfryngau, ymgyrchoedd marchnata wedi talu amdanynt a hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, ochr yn ochr â'r Saesneg.
Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Rydym wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac rydym wedi gweithio'n galed ar wneud gwelliannau yn gyffredinol. Mae ein cynnwys ar-lein bellach yn cynnwys dros 750 o erthyglau, tua 20 o declynnau neu gyfrifianellau ac ymgyrchoedd a diweddariadau di-ri, gyda'r rhan fwyaf yn cael eu cyflwyno yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg. Fodd bynnag, rydym bob amser yn anelu at wella ac rydym yn croesawu adborth ar unrhyw beth y gallwn ei wneud yn well.
"Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn tyfu ac er mwyn ei fodloni, rydym am gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau i bawb sydd eu hangen. Byddem yn croesawu cefnogaeth gan bawb, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, wrth i ni geisio cyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl gyda'n gwasanaethau di-dâl, diduedd a hanfodol."
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: