Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Strategol
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
    • Canolbwynt llwybrau dysgu
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Dangosfyrddau pensiynau

Bydd dangosfyrddau pensiynau yn galluogi pobl i weld eu holl wybodaeth am bensiynau ar-lein, yn ddiogel ac mewn un lle am y tro cyntaf. Bydd hyn yn helpu i gefnogi cynllunio ymddeoliad a lles ariannol gwell.

  • Cyflwyno dangosfyrddau pensiynau
  • Y Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau (PDP)
  • Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian
  • Dangosfyrddau sector preifat
  • Gweithio gyda'r diwydiant pensiynau a phartneriaid
  • Diweddariadau ac adnoddau dangosfyrddau pensiynau
  • Cysylltwch â ni

Cyflwyno dangosfyrddau pensiynau

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gweithio ar brosiect sydd â dau brif swyddogaeth:

  • gwneud dangosfyrddau pensiynau'n bosibl - trwy greu'r llywodraethu, y seilwaith technegol a'r gwasanaethau gofynnol i gysylltu darparwyr a chynlluniau pensiwn, sy'n cael ei gyflwyno drwy'r Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau (PDP)
  • darparu dangosfwrdd pensiynau am ddim, a gefnogir gan y llywodraeth - i'w lansio trwy HelpwrArian.

Y Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau (PDP)

Nod y PDP yw cysylltu pobl â gwybodaeth am eu pensiynau trwy ddangosfyrddau, gan ganiatáu iddynt weld gwybodaeth am bensiynau gweithle, preifat a Phensiwn y Wladwriaeth gyda'i gilydd mewn un lle.

Sut fydd PDP yn gweithio?

Er mwyn i ddangosfyrddau pensiynau weithio, mae angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau, darparwyr pensiynau a chynlluniau pensiwn unigol allu cysylltu ag un ecosystem ddigidol.

Bydd cysylltu'r rhain i gyd yn caniatáu i ddangosfyrddau ddod â gwybodaeth pensiwn cynilwyr ynghyd mewn un lle.

Gwaith y PDP

Nod y PDP yw cysylltu tua 3,000 o ddarparwyr a chynlluniau pensiwn sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth â'r ecosystem yn 2025 a 2026.

Dyma pam mae'r PDP wedi bod yn:

  • adeiladu'r isadeiledd digidol sydd ei angen i wneud i ddangosfyrddau pensiynau weithio
  • datblygu safonau sy'n ymwneud â gweithrediad ymarferol gwasanaethau dangosfyrddau pensiynau a
  • datblygu'r isadeiledd digidol sydd ei angen i'w cefnogi.

Dysgwch fwy am y rhaglen ar wefan y PDPYn agor mewn ffenestr newydd

Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian

Bydd y dangosfwrdd pensiynau cyntaf sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd - ein gwasanaeth canllawiau arian a phensiynau sy'n wynebu defnyddwyr. Bydd ar agor i bob cynilwr sydd â phensiwn wedi'i gronni yn y DU sydd:

  • heb ei gyrchu eto, neu
  • nad yw'n cael ei dalu ar hyn o bryd (ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth, rhaid i'r defnyddiwr fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth).

Drwy HelpwrArian rydym yn darparu canllawiau diduedd, sy'n golygu na fydd y dangosfwrdd yn gwerthu cynhyrchion ariannol ac na fydd yn cynnig cyngor ariannol. Fodd bynnag, bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at:

  • yr ystod o ganllawiau pensiwn sydd ar gael ar HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd
  • opsiynau ar gyfer dod o hyd i gyngor ariannol sydd wedi’i reoleiddio a
  • threfnu apwyntiad Pension Wise am ddimYn agor mewn ffenestr newydd, sydd ar gael i'r rhai dros 50 oed.

Profi defnyddwyr

Ar hyn o bryd rydym yn gofyn i ddefnyddwyr brofi’r dangosfwrdd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut mae pobl yn rhyngweithio â’r dangosfwrdd a’r gwerth mae’n ei ddarparu, ac i wneud gwelliannau i’r gwasanaeth cyn iddo gael ei lansio i’r cyhoedd. 

Os ydych chi'n ddarparwr neu gynllun pensiwn, yn gyflogwr, yn elusen neu’n fusnes arall, gallwch helpu drwy wahodd eich aelodau neu’ch cwsmeriaid i gymryd rhan yn y profion.

Mae ein pecyn cyfathrebuYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i helpu pobl i gofrestru.

Dangosfyrddau sector preifat

Bydd sefydliadau trydydd parti eraill a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn gallu datblygu a chynnal eu dangosfyrddau eu hunain. Bydd y dangosfyrddau sector preifat hyn yn cael eu cyflwyno ar ôl i Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian gael ei wneud ar gael i'r cyhoedd.

Safonau dangosfyrddau pensiynau

Bydd PDP yn gosod safonau ar gyfer darparwyr dangosfyrddau sector preifat i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion dylunio, diogelwch ac adrodd. Bydd y rhain yn rhedeg ochr yn ochr â rheolau'r FCA.

Dysgwch fwy am ein gwaith ynghylch safonau dangosfyrddau pensiynau.Yn agor mewn ffenestr newydd

Gweithio gyda'r diwydiant pensiynau a phartneriaid

Mae cyflwyno dangosfyrddau pensiynau yn cynnwys cydweithio â’r:

  • diwydiant pensiynau
  • rheoleiddwyr, fel y Rheoleiddiwr Pensiynau a'r FCA, a’r
  • llywodraeth (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Rydym wedi ymgysylltu'n agos â'r sefydliadau hyn trwy weithgorau, gweminarau, cynadleddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb.

Trwy'r cydweithrediad hwn, rydym yn codi ymwybyddiaeth o ddyletswyddau'r diwydiant o gwmpas dangosfyrddau pensiynau ac yn cael mewnwelediadau ac adborth gwerthfawr.

Diweddariadau ac adnoddau dangosfyrddau pensiynau

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y PDP ar ei wefan, sy'n cynnwys:

  • yr adroddiad diweddaru cynnydd PDPYn agor mewn ffenestr newydd diweddaraf
  • hwb gysylltu ar gyfer darparwyr a chynlluniau pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd sy'n cysylltu ag ecosystem y dangosfwrdd pensiynau
  • y cyhoeddiadau newyddion diweddarafYn agor mewn ffenestr newydd
  • blogiauYn agor mewn ffenestr newydd a fideos esboniadolYn agor mewn ffenestr newydd ar amrywiaeth o bynciau
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau PDPYn agor mewn ffenestr newydd, gan gynnwys dolenni i recordiadau o weminarau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddangosfyrddau pensiynau, gallwch gysylltu â ni trwy ein tudalen gymorth PDP.Yn agor mewn ffenestr newydd

Get all the latest news on our progress and join the conversation

LEGAL

  • Terms and conditions
  • Privacy notice
  • Cookie policy
  • Money and Pensions Service standards
 
  • Publication scheme
  • Data subject access requests
  • Accessibility statement
  • Cookie preference

OUR BRANDS

  • MoneyHelper Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Financial Capability Strategy for the UK Yn agor mewn ffenestr newydd

STAY IN TOUCH

  • Contact us
  • Sign up to newsletter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Copyright 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

All rights reserved.