Jenny yw Cyfarwyddwr Pobl, Diwylliant a Sgiliau yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Ymunodd â MaPS o'r Adran Gwaith a Phensiynau lle bu'n Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Digidol.
Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bywydau pobl go iawn yw gwraidd gwerthoedd Jenny. Mae wedi treulio'r 17 mlynedd diwethaf yn y Gwasanaeth Sifil lle bu'n dal swyddi uwch mewn adnoddau dynol, strategaeth, newid, polisi cyhoeddus a chyfathrebu.
Mae hi wedi gweithio yn y Swyddfa Gartref, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cyn ymfudo o Dde Affrica yn 2002, bu Jenny'n gweithio yn y sector preifat i gwmnïau peirianneg sifil oedd yn arwain ar brosiectau cyfathrebu a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.