Kate Shiner yw Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Polisi a Llywodraethu yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Yn ei rôl, mae Kate yn arwain y strategaeth gorfforaethol, ac yn goruchwylio polisi, mewnwelediad a llywodraethu.
Cyn hynny bu Kate yn Brif Swyddog Gweithredu Cyfiawnder Digidol, swyddogaeth Ddigidol a Thechnoleg y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ), sy’n dylunio, adeiladu a chefnogi gwasanaethau digidol a thechnoleg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer system gyfiawnder y DU.
Gyda dros ddau ddegawd o brofiad mewn llywodraeth ganolog, mae Kate wedi bod mewn rolau arweinyddiaeth amrywiol mewn polisi, strategaeth a chyflawni ar draws yr Adran Addysg (DfE) a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cwblhaodd hefyd secondiad i Ymddiriedolaeth Aml-Academi yn Ne Llundain i arwain eu strategaeth twf a datblygiad.
Drwy gydol ei gyrfa, mae Kate wedi bod yn ymroddedig i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy integreiddio prosesau dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau'r llywodraeth yn fwy cynhwysol, effeithiol, ac yn cyd-fynd ag anghenion y rhai y maent yn eu gwasanaethu.