Ymunodd Mark Gray â MaPS fel Cyfarwyddwr Risg a Chydymffurfiaeth Dros Dro ar ôl cynghori gwahanol gyrff hyd braich y llywodraeth cyn hyn ar eu Fframweithiau Risg, Cydymffurfiaeth a Sicrwydd. Gwnaeth hefyd sefydlu'r Adran Risg a Chydymffurfio ym Manc Busnes Prydain sy'n eiddo i'r llywodraeth lle bu'n Brif Swyddog Risg am bum mlynedd.
Cyn gweithio yn y sector cyhoeddus, roedd Mark yn Brif Swyddog Risg yn Shawbrook Bank a chyn hynny treuliodd bron i ddeng mlynedd yn General Motors Acceptance Corporation, cwmni gwasanaethau ariannol byd-eang.
Ym mis Mehefin 2018, penodwyd Mark i Fwrdd Cymdeithas Adeiladu Marsden lle mae'n cadeirio Pwyllgor Risg y Bwrdd