Oliver Morley yw Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac ymunodd â ni ar 1 Chwefror 2024.
Daw Oliver â chyfuniad o brofiad uwch yn y sector preifat yn Reuters ynghyd â hanes unigryw o arwain newid fel Prif Swyddog Gweithredol yn y sector cyhoeddus. Yn ei amser yn rhedeg y Gronfa Diogelu Pensiynau, dyblodd y cronfeydd wrth gefn o £6 i 12 biliwn a gostyngodd yr ardoll PPF ar bensiynau 80%. Yn y DVLA, diddymwyd y ddisg treth a gwrth-ddalen y drwydded yrru, gyda’r ffioedd yn cael eu gostwng am y tro cyntaf a gwasanaethau digidol arloesol gan dîm TG a oedd newydd ei benodi. Fel Ceidwad yr Archifau Cenedlaethol, fe gyflawnodd lansiad llwyddiannus cyfrifiad 1911 a legislation.gov.uk. Mae wedi derbyn CBE am ei gyfraniad i wasanaethau cyhoeddus digidol.
Mae Oliver wedi ymrwymo i weld MaPS yn cyrraedd ei lawn botensial “i helpu pobl, yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf, i wneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau.” Bydd ei berthynas sefydledig â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant pensiynau yn cefnogi’r tîm wrth i ni gyflawni’r Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau, gan ei bod bellach ar y trywydd iawn i ddyddiad targed Hydref 2026.