Ymunodd Anabel Hoult â Which? fel Prif Weithredwr ym mis Hydref 2018, gyda phrofiad o ystod o sectorau gan gynnwys manwerthu, elusen, gwasanaethau defnyddwyr a thechnoleg ariannol. Cyn gweithio yn Which?, treuliodd Anabel dros 12 mlynedd yn gweithio yn y sector masnachol, yn fwyaf arbennig fel rheolwr gyfarwyddwr yn Carphone Warehouse. Roedd hi’n Brif Swyddog Gweithredol Achub y Plant rhwng mis Rhagfyr 2010 a mis Gorffennaf 2015, lle cyflwynodd well ffocws strategol, perfformiad gweithredol a thwf ariannol.
Mae Anabel yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer busnes eiddo Hoults Yard ac elusen plant OnSide Youth Zones.