Mae Debbie Forster yn ffigwr sydd wedi ennill nifer o wobrau ym meysydd amrywiaeth, technoleg, arloesedd ac addysg. Mae hi’n Brif Swyddog Gweithredol y Tech Talent Charter – sefydliad dielw sy’n arwain mudiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y sector technoleg – ac mae’n gwasanaethu fel ymddiriedolwr y Cyngor Prydeinig.
Mae hi hefyd ar Gyngor Economi Digidol y Llywodraeth, Bwrdd Amrywiaeth The Institute of Coding a grŵp llywio #TechShecan. Dyfarnwyd MBE i Debbie ym mis Ionawr 2017 am Wasanaethau i Ddatblygu Technoleg a Thechnoleg Ddigidol ac fe’i henwir fel un o’r menywod mwyaf dylanwadol yn y DU o ran TG ar gyfer 2019 gan Computer Weekly.