Ail-ymunodd Jayne â Grŵp Bancio Lloyds ym mis Rhagfyr 2022 fel Prif Swyddog Gweithredol, Perthnasoedd Defnyddwyr, canolbwynt strategaeth dwf y grŵp i ddyfnhau perthnasoedd defnyddwyr trwy brofiad wedi'i bersonoli a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Caiff y perthnasoedd hyn eu meithrin trwy sianeli amrywiol, gan gynnwys tua 1,300 o ganghennau a thimau sy'n ymwneud yn uniolgyrchol â chwsmeriaid, banc digidol mwyaf y DU a thimau ffôn a gweithrediadau.
Mae gan Jayne dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector ariannol, gan arwain timau amrywiol sy’n canolbwyntio ar drawsnewid busnesau, gan arbenigo’n fwyaf diweddar mewn sianeli cwsmeriaid, gweithrediadau a thechnoleg a defnyddio data fel arf i gefnogi cydweithwyr a sbarduno personoli ar gyfer cwsmeriaid. Cyn ail-ymuno â Lloyds, bu Jayne yn gweithio mewn sawl sefydliad ariannol adnabyddus yn y DU ac yn Awstralia ac Asia, gan gynnwys Citi, Westpac, ANZ ac yn fwyaf diweddar Barclays.