David Halpern yw Prif Weithredwr y Behavioural Insights Team ac mae wedi arwain y tîm ers ei sefydlu yn 2010. Cyn hynny, David oedd Cyfarwyddwr Ymchwil cyntaf yr Institute for Government a rhwng 2001 a 2007 bu’n Brif Ddadansoddwr yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog.
Penodwyd David hefyd yn Ymgynghorydd Cenedlaethol What Works ym mis Gorffennaf 2013. Mae'n cefnogi'r Rhwydwaith What Works ac yn arwain ymdrechion i wella'r defnydd o dystiolaeth ar draws y llywodraeth.
Cyn mynd i mewn i'r llywodraeth, daliodd David gyfnod yng Nghaergrawnt a swyddi yn Rhydychen a Harvard.