Mae gan Marlene Shiels dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector credyd, yn hyrwyddo, hybu a datblygu undebau credyd ledled y DU a thu hwnt. Ar hyn o bryd hi yw'r Prif Swyddog Gweithredol yn y Capital Credit Union ac mae ganddi rôl aelodaeth yn Fforwm Polisi Cynhwysiant Ariannol HMT.
Cyn hynny, roedd ganddi swydd Cadeirydd o’r FCA Smaller Business Practitioner Panel ac roedd yn aelod o Banel Ymarferwyr yr FCA tan fis Mehefin 2022. Mae hi hefyd yn gynghorydd i Camilla, Y Frenhines Gydweddog, ar gynhwysiant ariannol.