Mae Monica Kalia wedi’i chydnabod gan Forbes fel un o’r arweinwyr benywaidd gorau ym maes FinTech ac wedi’i rhestru fel un o ‘100 arweinwyr BAME mwyaf dylanwadol ym maes technoleg y DU’ gan Financial Times & Inclusive Boards.
Mae Monica wedi dangos ymrwymiad amlwg i hyrwyddo’r achos o ddatblygiad menywod a lleiafrifoedd mewn busnes. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector gwasanaethau ariannol yn y Bank of America, Credit Suisse a Goldman Sachs. Mae hi'n hyddysg mewn gwella gallu ariannol mewn meysydd fel credyd fforddiadwy, cyngor ar gynilion a dyled, gan gynnwys mewn rolau anweithredol yn Stepchange.