Ymunodd Sara Weller CBE â Bwrdd MaPS ym mis Medi 2022 a daeth yn Gadeirydd ym mis Mawrth 2023. Mae ganddi gefndir eang yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Roedd Sara yn Gyfarwyddwr Anweithredol Grŵp Bancio Lloyds o 2012-2021, lle bu’n cadeirio’r Pwyllgor Busnes Cyfrifol ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Banc Lloyds, gan weithio gydag elusennau bach a lleol yn mynd i’r afael â materion ar gyfer pobl sy’n wynebu llawer o anfanteision.
Gwasanaethodd Sara ar Fwrdd United Utilies o 2012-2020, ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol BT.
O fewn y sector cyhoeddus, roedd Sara yn Brif Weithredwr yn DWP o 2017-2020, yn DCLG o 2010-2015 ac yn ystod yr amser hwnnw cadeiriodd yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae’n dod â chefndir helaeth mewn rolau anweithredol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys rôl gyfredol yn BT Group. Mae ganddi brofiad eang mewn gweithrediadau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gan gynnwys cefnogaeth a darpariaeth i’r rhai sydd mwyaf bregus, yn ogystal â phrofiad o drawsnewid strwythurol a diwylliannol.
Mae Sara yn eiriolwr lleisiol dros gynyddu Cynhwysiant Anabledd yn y gweithle ac yn ddiweddar mae wedi codi dros £250,000 ar ôl cwblhau Marathon Llundain mewn cadair olwyn i godi arian ar gyfer ymchwil i Sglerosis Ymledol, cyflwr y mae hi wedi byw ag ef ers 2009.