Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
      • Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Sefydliadau arian ac iechyd meddwl yn cyfuno i gefnogi mwy o gymorth i bobl sydd mewn trafferth

Cyhoeddwyd ar:

26 Ebrill 2023

Mae sefydliadau arian ac iechyd meddwl ledled y DU yn cefnogi canllaw newydd sy’n dangos i gredydwyr sut i gynnig mwy o gymorth i gwsmeriaid sydd mewn trafferthion.

  • Mae canllaw newydd yn cynnig cyngor i gredydwyr ar sut i roi mwy o gymorth i’w gwsmeriaid.
  • Mae 18% o bobl â phroblem iechyd meddwl hefyd gyda phroblemau dyled ac maent 1.5 gwaith yn fwy tebygol o gael trafferth gyda biliau ac ymrwymiadau credyd.
  • Mae ymchwil hefyd yn dangos bod gan hanner lai na £100 mewn cynilion ac mae treian heb ddim o gwbl.
  • Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn dweud bod y canllaw yn gam arall tuag at sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw un fynd trwy broblemau arian ac iechyd meddwl ar eu pen eu hunain.

Rhyddhad ycanllaw ‘Lechyd Meddwl ac Arian’

Crëwyd ‘Iechyd Meddwl ac Arian’, a ryddhawyd heddiw gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS), ar ôl ymgynghori’n fanwl ag arbenigwyr yn y ddau faes.

Mae’n cael ei gefnogi gan Money and Mental Health Policy Institute, Mind, Rethink Mental Illness a Chyngor ar Bopeth, yn ogystal ag Adferiad Recovery yng Nghymru, MindWise yng Ngogledd Iwerddon a Change Mental Health yn Yr Alban.

Mae cysylltiad cryf rhwng arian ac iechyd meddwl, gydag ymchwil o’r Money and Mental Health Policy Institute yn dangos bod un o bump o bobl (18%) sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl hefyd mewn dyled.

Mae’r canllaw’n amlinellu chwe ffordd y gall credydwyr mewn gwasanaethau ariannol, cyfleustodau a’r sector cyhoeddus wneud mwy i gefnogi’r rhai sy’n cael trafferth.

Mae’r rhain yn cynnwys galluogi staff i helpu, ystyriaeth ychwanegol wrth fynd ar ôl taliadau a’i gwneud hi’n haws i bobl gysylltu pan fydd angen help arnynt.

Mae eraill yn cynnwys galluogi cwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio i gynnwys trydydd parti wrth reoli eu cyfrif, mwy o oddefgarwch a’u cyfeirio’n rhagweithiol at gefnogaeth allanol.

Mae’r canllaw hefyd yn awgrymu sut y gall credydwyr ddefnyddio’r technegau’n ymarferol, yn rhestri adnoddau gallant eu defnyddio ac yn eu hatgoffa o ddyletswyddau FCA perthnasol a allai fod yn ofynnol.

Mae ymchwil gan MaPS, a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, hefyd yn dangos bod pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl tua un a hanner gwaith yn fwy tebygol o gael trafferth gyda biliau ac ymrwymiadau credyd (74% o’i gymharu â 50% o holl oedolion y DU).

Darganfyddod MaPS hefyd fod gan hanner y bobl sydd â phroblem iechyd meddwl lai na £100 o gynilion, tra bod dros draean heb unrhyw gynilion o gwbl, gan eu gadael heb rwyd ddiogelwch hanfodol os ydynt yn mynd i drafferth ariannol.

Yn ôl MaPS, dylai pobl sy’n cael eu hunain mewn trafferth ariannol geisio’r help a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl. Nod y canllaw yw dangos i gredydwyr sut y gallant gynorthwyo eu cwsmeriaid ar y daith honno.

Dywedodd Sarah Murphy, Arweinydd Polisi Iechyd Meddwl yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae cysylltiad agos rhwng problemau arian ac iechyd meddwl a gall un arwain yn gyflym at y llall. Gall delio â’r ddau ar wahân bod yn ddigon anodd, ond gall gorfod ymdopi â’r ddau ar yr un pryd ddod yn llethol.

“Nod y canllaw hwn yw dangos i wasanaethau ariannol, cyfleustodau a sefydliadau’r sector cyhoeddus yr hyn y gallant ei wneud i helpu cwsmeriaid sy’n cael trafferth, oherwydd gall y cymorth cywir ar yr adeg gywir newid bywydau.

“Trwy gyd-weithio â chredydwyr, gallwn eu helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt i sicrhau nad yw unrhyw un yn mynd trwy’r sefyllfa anodd hwn ar eu pen eu hunain.”

Dywedodd Conor D’Arcy, Pennaeth Ymchwil a Pholisi yn y Money and Mental Health Policy Institute:

“Gall y cylch dieflig o broblemau arian ac iechyd meddwl gael canlyniadau dinistriol. A gyda chostau byw cynyddol, mae mwy o bobl nag erioed yn cael trafferth gyda’r realiti brawychus hwnnw. Mae gan gredydwyr rôl hanfodol wrth leddfu rhywfaint o’r strain hynny, a lleihau’r pryder a gofid a all ddod ynghyd â thrafferthion ariannol.

“Trwy gymryd y camau a nodir yn y canllaw, megis gwneud eu cyfathrebiadau ynghylch dyled yn fwy cefnogol a sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant cywir, gall credydwyr wneud gwahaniaeth mawr drwy sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael yr help sydd ei angen arnynt. Bydd hyn yn mynd ymhell i wella cefnogaeth i gwsmeriaid sy’n cael trafferth yn ystod yr amseroedd anodd hyn a thu hwnt."

Dywedodd Laura Peters, Pennaeth Mental Health & Money Advice, Rethink Mental Illness:

“Pan fydd pobl yn cael trafferth gydag arian a dyled, mae’r gweinyddu a’r straen sy’n gysylltiedig yn dechrau pentyrru’n gyflym, felly mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gynnig cefnogaeth. Dylai'r canllaw hwn gefnogi gwelliannau i'r cymorth y mae pobl sy'n cael trafferth gyda'u harian a'u hiechyd meddwl yn ei dderbyn, ond rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn grymuso credydwyr i chwarae rhan fwy gweithredol wrth helpu i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael eu cefnogi'n well gyda'r heriau maent yn eu hwynebu.”

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i olygwyr

  • Cyrchu’r canllaw llawn: Iechyd Meddwl ac Arian: Canllaw ar gyfer Cefnogi Cwsmeriaid.
  • Mae bron un o bob pump (18%) o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl mewn problem ddyled (ffynhonnell: Money and Mental Health Policy Institute).
  • Roedd 74% o bobl gyda phroblem iechyd meddwl yn cael trafferth i gadw i fyny, yn cwympo tu ôl neu wedi cwympo tu ôl ar filiau ac ad-daliadau credyd, o’i gymharu â 50% o oedolion y DU (ffynhonell: MaPS, tudalen 6).
  • Mae gan hanner y bobl sydd â phroblem iechyd meddwl lai na £100 o gynilion hefyd, tra bod dros draean heb ddim o gwbl (ffynhonnell: MaPS).

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Pob datganiad i'r wasg Dyled Lechyd meddwl

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.