Lansiwyd teclyn newydd i helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu plant am arian

Published on:

Bydd teclyn newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu plant am arian ac yn trawsnewid eu perthynas ag arian yn y dyfodol.

  • Bydd y teclyn ar-lein yn helpu mwy o blant a phobl ifanc i gael addysg ariannol gartref.
  • Mae arferion ac ymddygiadau ariannol yn cael eu ffurfio o oedran ifanc, felly mae'n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn dechrau'n gynnar.
  • Dim ond traean o oedolion fyddai'n trafod eu sefyllfa ariannol gyda'u plant pe baent mewn trafferthion.
  • Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau o’r farn bod dysgu plant am arian o oedran ifanc yn gwneud gwahaniaeth mawr gan ei fod yn helpu i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel oedolion.

Bydd teclyn newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu plant am arian ac yn trawsnewid eu perthynas ag arian yn y dyfodol.

Mae Siarad, Dysgu, Gwneud yn declyn digidol sy'n rhoi'r sgiliau a'r hyder i rieni a gofalwyr siarad â'u plant am arian. Mae hefyd yn dangos pam ei bod yn bwysig dysgu arferion ariannol da o oedran cynnar.

Mae'n esbonio pynciau pwysig drwy ffurf weithgareddau hwyliog a gwybodaeth bychain, fel arian poced, cynilo a theithiau siopa.

Mae siarad yn agored am arian yn helpu plant i feithrin arferion ariannol iach ar gyfer bywyd diweddarach, ond mae ymchwil MaPS yn dangos mai dim ond traean o rieni (31%) sy'n debygol o siarad â'u plant os ydynt yn wynebu trafferthion.

Gall hefyd helpu rhieni i wella eu lles ariannol eu hunain. Mae astudiaethau sy'n gwerthuso fersiwn gynharach o Siarad, Dysgu, Gwneud wedi dangos bod rhai rhieni a gwblhaodd y gweithgaredd wedi cael eu hannog i gymryd camau i wella eu sefyllfa ariannol eu hunain.

Mae'r lansiad yn dilyn ymchwil gan MaPS a ddatgelodd fod llai na hanner o blant (47%) wedi derbyn addysg ariannol ystyrlon gartref neu yn yr ysgol, gyda miliynau heb eu derbyn.

Mae MaPS yn dweud y gall dysgu am arian helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r agweddau sydd eu hangen arnynt i reoli arian yn ddiweddarach mewn bywyd, sy'n allweddol i gryfhau lles ariannol a gwytnwch ledled y DU.

Yn ogystal, mae Siarad, Dysgu, Gwneud yn gam pwysig arall tuag at darged MaPS o ddwy filiwn yn fwy o blant yn derbyn addysg ariannol ystyrlon erbyn 2030, a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol.

Dywedodd Lisa Davis, Uwch Reolwr Polisi yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

"Rydym yn deall y gall siarad am arian fod yn frawychus i lawer o rieni a gofalwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn cael y sgyrsiau hyn gan y gall drawsnewid y berthynas y mae plant yn ei chael ag arian yn y dyfodol, gan eu gwneud yn fwy hyderus a chryfhau eu lles ariannol.

"Mae Siarad, Dysgu, Gwneud yn gwneud y sgyrsiau hyn yn llawer haws ac yn dangos sut y gall plant ddysgu am arian o gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd. Nid oes angen iddo fod yn gymhleth ac mae ganddo fanteision sy'n para am oes.

"Byddem yn annog pawb i gymryd amser i siarad â'ch plant am fanteision arian a'r heriau y gall eu cyflwyno.  Gall gwneud hyn yn gynnar wneud gwahaniaeth mawr iddynt a bydd o fantais i'ch lles ariannol eich hun hefyd."

– DIWEDD –

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Siarad, Dysgu, Gwneud ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Gwnaeth MaPS arolwg o 2,228 o oedolion yn y DU, gyda 1,542 ohonynt wedi cael plant. Dywedodd 31% o'r rheiny y byddent yn debygol o siarad â'u plant amdano pe byddent yn wynebu trafferthion ariannol.
  • Gellir dod o hyd i'r astudiaeth sy'n gwerthuso fersiwn flaenorol o Siarad, Dysgu, Gwneud yma.

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd