Published on:
06 Rhagfyr 2023
Mae mwy na hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn bwriadu benthyg arian ar gyfer y Nadolig neu wyliau crefyddol a diwylliannol eraill dros y tri mis nesaf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae'r arolwg o 141 o oedolion yng Nghymru, a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), yn dangos bod un o bob pedwar (26%) yn debygol o fenthyg neu ddefnyddio credyd ar gyfer gwyliau sydd i ddod fel y Nadolig a Hanukkah.
Ymhlith y rheini, dywedodd dwy ran o dair (62%) eu bod yn debygol o ddefnyddio cardiau credyd, tra byddai chwarter (27%) yn dewis prynu nawr a thalu wedyn a gorddrafftiau (hefyd 27%). Dywedodd traean (30%) y byddent yn troi at ffrindiau neu deulu a byddai un o bob deg (11%) yn mynd am fenthyciadau diwrnod cyflog.
Pan ofynnwyd iddynt faint maen nhw'n meddwl y byddan nhw'n ei fenthyg, dywedodd bron hanner (46%) rhwng £101-£300. Roedd traean (30%) yn meddwl £301-£500 a dywedodd un o bob 12 y byddent yn benthyg dros £500 (8%).
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos pa mor hir maen nhw'n credu y bydd yn ei gymryd i dalu'n ôl. Dywedodd un o bob pump (22%) 7-12 mis, gydag 8% arall yn dweud yn hirach na blwyddyn.
Eleni, mae MaPS yn gofyn i'r rhai sy'n bwriadu defnyddio credyd i dalu am y Nadolig neu wyliau crefyddol a diwylliannol eraill i "gymryd anadl cyn i chi fenthyca." Mae hyn yn rhoi amser iddynt asesu eu hopsiynau a sicrhau bod ganddynt gynllun clir i ad-dalu'r credyd y maent yn ei dderbyn.
Mae MaPS hefyd yn annog pobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd i ddefnyddio ei wasanaeth HelpwrArian, sy'n cynnig arweiniad am ddim ar gredyd a dod o hyd i gyngor ar ddyledion.
Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Mae'r gwyliau'n amser gwych o'r flwyddyn, ond gallant hefyd wneud i bobl deimlo dan bwysau i wario llawer mwy nag y gallant ei fforddio. Gyda llawer o aelwydydd ledled Cymru eisoes yn teimlo'r straen, nid yw'n syndod bod miliynau yn edrych ar gredyd i ariannu'r dathliadau.
"Yr hyn sy'n arbennig o bryderus yw y bydd rhai yn parhau i ad-dalu pan ddaw'r flwyddyn nesaf. Ar ben y straen y gall hyn ei achosi, mae hyn yn aml yn golygu defnyddio cynhyrchion tymor byr ar gyfer y math o fenthyca drud, hirdymor nad oeddent wedi'u cynllunio ar ei gyfer.
"Mae credyd yn declyn defnyddiol, ond mae'n hanfodol cymryd anadl cyn i chi fenthyca. Os yw pethau'n mynd allan o reolaeth, neu os byddwch yn dechrau bod angen credyd am gostau hanfodol, efallai y bydd yn bryd gofyn am help. Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae gennym adnoddau pwrpasol ar ein gwasanaeth HelpwrArian am ddim a byddwn yn eich annog i edrych arni heddiw."
– DIWEDD –
For media enquiries please contact MaPS Press Office: