Published on:
06 Tachwedd 2023
Mae mwy na hanner miliwn o bobl yng Nghymru wedi methu taliadau ar filiau cartref allweddol eleni ac mae bron i gan fil o bobl am y tro cyntaf, yn ôl ymchwil newydd ar gyfer Wythnos Siarad Arian 2023.
Mae arolwg o 141 o oedolion, a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), yn dangos bod un o bob pedwar o bobl (27%) wedi methu o leiaf un taliad yn 2023. O’r rheini, dywedodd 14% mai dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i hyn ddigwydd.
Mae’r data’n cael ei ryddhau i nodi Wythnos Siarad Arian eleni (Tachwedd 6-10), a gynhelir gan MaPS, sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i “wneud un peth” sy’n gwella eu lles ariannol.
Datgelir mai ad-daliadau cerdyn credyd oedd y math mwyaf cyffredin a aeth heb ei dalu (13%), ac yna cyfleustodau (10%), Treth Gyngor neu gyfraddau (8%) a gorddrafftiau banc neu fenthyciadau (8%). Roedd un o bob 20 wedi methu taliad rhent (4%) ac 1% wedi methu taliad morgais.
Ymhlith y rhai a oedd wedi methu un cyn 2023, ad-daliadau cerdyn credyd a Threth Gyngor neu gyfraddau oedd y mwyaf cyffredin (y ddau yn 32%). Nid oedd cyfleustodau (23%), gorddrafft banc neu fenthyciadau (17%), taliadau rhent a morgais (y ddau yn 14%) ymhell ar ei hôl.
Yn ystod Wythnos Siarad Arian, mae MaPS yn gofyn i bobl “weithredu nawr” os ydyn nhw’n cael trafferth gwneud taliadau.
Yn benodol, mae’r sefydliad yn dweud os ydych ar fin methu taliad, siaradwch â’ch credydwr oherwydd efallai y gallent gynnig tariff gwell, trefniant talu mwy hyblyg neu gysylltu ag elusen a all helpu. Mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb i'ch trin yn deg trwy gynnig opsiynau fforddiadwy.
Fodd bynnag, mae'r ffigurau hefyd yn dangos mai dim ond dau o bob tri o bobl (69%) fyddai'n siarad â'u credydwr ac mewn gwirionedd, byddai un o bob wyth o bobl (13%) yn gwneud dim pe baent yn mynd am drwbl.
Pan ofynnwyd iddynt pam na fyddent yn rhoi gwybod i’w credydwr, dywedodd un o bob pump (21%) y byddent yn teimlo gormod o embaras neu gywilydd. Teimlo y byddent yn cael eu barnu (15%), gorfod datgelu rhywbeth nad oeddent yn fodlon ei wneud (21%) a pheidio â gwybod y gall credydwyr helpu (31%) oedd y prif resymau eraill.
I bobl sydd eisoes wedi methu taliadau, mae MaPS yn dweud y dylen nhw ystyried cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, dim ond traean o bobl (36%) a ddywedodd y byddent yn siarad â sefydliad sy’n cynnig cymorth neu gyngor ar ddyledion am ddim os oeddent yn meddwl eu bod yn mynd i fethu taliad.
Roedd yn well gan y mwyafrif dorri'n ôl ar hanfodion (73%), tra byddai eraill yn siarad â theulu a ffrindiau (39%). Dywedodd un o bob pedwar (18%) y byddent yn cymryd mwy o gredyd i dalu’r gost.
Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Nid yw’n gyfrinach fod pobl yn ei chael hi’n anodd eleni ac fel y mae’r canlyniadau hyn yn ei awgrymu, mae cyllidebau llawer o aelwydydd yng Nghymru dan bwysau difrifol. Fodd bynnag, ni fyddai rhai pobl yn cymryd unrhyw gamau o gwbl pe baent yn dechrau cael trafferth a gallai hyn eu gwthio i fagl dyledion problemus hirdymor.
“Yr Wythnos Siarad Arian hon, rydyn ni’n gofyn i bobl sy’n cael trafferth gyda thaliadau “wneud un peth” a gweithredu’n gyflym. Os byddwch yn methu taliad, siaradwch â’ch credydwr ymlaen llaw ac os yw wedi digwydd yn barod, ystyriwch gael cyngor ar ddyledion am ddim. Bydd gweithredu nawr yn rhoi’r cyfle i chi reoli’r sefyllfa, dod o hyd i ffordd ymlaen ac osgoi’r dinistr y gall dyled ei achosi.
“Gall fod yn anodd cymryd y cam cyntaf hwnnw, ond fe all wneud gwahaniaeth enfawr. Rydym yn cynnig canllaw diduedd am ddim ar ddechrau’r sgwrs trwy ein gwasanaeth HelpwrArian ac mae ar gael nawr i unrhyw un sydd ei angen.”
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: