Published on:
05 Awst 2024
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi adnewyddu ei declyn cymharu cyfrifon banc ar ei safle i ddefnyddwyr, HelpwrArian, i helpu i wneud dewis y cyfrif banc cywir yn symlach.
Mae dewis y cyfrif banc myfyrwyr cywir newydd ddod yn haws
Un grŵp penodol a fydd yn elwa o'r teclyn yw myfyrwyr, gan fod y teclyn yn cynnwys hidlydd a ddyluniwyd yn benodol i gymharu cyfrifon banc myfyrwyrYn agor mewn ffenestr newydd.
Wrth i ganlyniadau Safon Uwch ddod allan ledled Cymru yr wythnos nesaf ar 15 Awst, bydd mwy na 1.25miliwn* o bobl ifanc ledled y DU gyfan yn dod yn fyfyrwyr prifysgol yn y mis nesaf.
Wrth i ganlyniadau Safon Uwch ddod allan ledled Cymru yr wythnos nesaf ar 15 Awst, bydd mwy na 1.25miliwn* o bobl ifanc ledled y DU gyfan yn dod yn fyfyrwyr prifysgol yn y mis nesaf.
Wrth i'r rhai sy'n gadael ysgol dderbyn eu canlyniadau a dechrau meddwl yn fwy difrifol am adael cartref, bydd yn rhaid i fyfyrwyr prifysgol wneud nifer o benderfyniadau ariannol mawr, gan gynnwys pa gyfrif banc sydd orau iddynt.
I lawer o bobl ifanc sy’n mynd i'r brifysgol a thalu am bethau fel rhent, bwyd a biliau, hwn fydd y tro cyntaf iddynt reoli symiau mawr o arian ar eu pen eu hunain, ac mae MaPS eisiau helpu myfyrwyr newydd i fagu hyder wrth reoli arian.
Bydd teclyn cymharu cyfrifon banc newydd MaPS yn cefnogi myfyrwyr newydd drwy ganiatáu iddynt gymharu cyfrifon banc yn uniongyrchol a dewis yr un gorau ar eu cyfer, gan gynnwys edrych ar derfynau gorddrafft ac amrywio ffioedd ar gyfer gwario arian dramor.
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn darparu cyngor diduedd am ddim ac nid yw'n cael ei gymell i hyrwyddo un cyfrif neu gwmni. Yn hytrach, nod teclyn cymharu syml MaPS yw creu ymwybyddiaeth am gyfrifon banc gwahanol a'u nodweddion i ganiatáu i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau gwybodus am y cyfrif gorau iddynt ddewis.
Mae gwybod yr hyn rydych chi ei eisiau o gyfrif banc a dewis yr un addas ar eich cyfer yn ddechrau gwych o ran rheoli eich arian.
Mae gan HelpwrArian, gan MaPS, ddigon o arweiniad a theclynnau cyllidebu a all gefnogi myfyrwyr i reoli eu harian. Ewch i'r Ganolfan Arian Myfyrwyr a Graddedigion ar HelpwrArian am arweiniad am ddimYn agor mewn ffenestr newydd.
Dywed Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Gan fod pobl ifanc ledled Cymru ar fin derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a mentro i ddod yn fyfyrwyr, bydd llawer ohonynt yn dechrau meddwl am reoli eu harian am y tro cyntaf.
"Mae'n wych cael yr adnodd hwn wedi'i adnewyddu a'i ddiweddaru gan ein bod yn gwybod y bydd yn helpu myfyrwyr i fynd i'r afael â cham cyntaf eu penderfyniadau cyllid myfyrwyr niferus: pa gyfrif banc i'w ddewis.
"Mae gan HelpwrArian ddigon o ganllawiau a theclynnau am ddim i helpu myfyrwyr i reoli eu harian am y tro cyntaf. Ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod mwy."
– DIWEDD –
* Nifer wedi’i dynnu o Ystadegau Myfyrwyr Addysg UwchYn agor mewn ffenestr newydd (HESE). Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022, roedd 2,862,620 o Fyfyrwyr Addysg Uwch yn y DU. Roedd 1,288,160 o'r rhain ym mlwyddyn gyntaf eu cwrs. Mae'r nifer hwn yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: