Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Mae'r galw am wasanaeth HelpwrArian wedi cynyddu 34% yn wythnos gyntaf 2024

Published on:

30 Ionawr 2024

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi cadarnhau bod y galw am gymorth ariannol ar-lein wedi cynyddu 34% yn ystod wythnos gyntaf 2024.

  • Mae pobl yn rhuthro i'r adran trafferthion arian wrth i'r Flwyddyn Newydd ddechrau.
  • Mae ymwelwyr unigryw ac ymweliadau cyffredinol wedi cynyddu o draean, tra bod ymweliadau â thudalennau'n dyblu.
  • Mae'n edrych yn debyg y bydd y cynnydd yn parhau trwy fis Ionawr, gyda chynnydd pellach eisoes wedi'i gofnodi.
  • MaPS: “Mae pobl ar fin wynebu cyfnod anodd, ond mae’r ateb yn dechrau gyda’r cam cyntaf hwnnw.”

Cyrhaeddodd cyfanswm yr ymweliadau â thudalennau Trafferthion Arian HelpwrArian 10,187 yn ystod wythnos gyntaf Ionawr eleni, gan godi o 7,625 yn ystod yr wythnos hyd at Noswyl Nadolig.

Yn ystod Ionawr 1-7 hefyd fe wnaeth 8,924 o unigolion fewngofnodi i’r adran, cynnydd o 37% o’i gymharu â Rhagfyr 17-24, tra bu i ymweliadau tudalen bron â dyblu (48%) i 20,027 yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae HelpwrArian, gwasanaeth diduedd a gefnogir gan y Llywodraeth, yn cynnig cymorth ac arweiniad am ddim i unrhyw un sydd ei angen ar ystod eang o bynciau ariannol, gan gynnwys gwybodaeth, canllawiau a theclynnau fel rhan o’i adran Trafferthion Arian.

Y dudalen fwyaf poblogaidd yr ymwelwyd â hi o fewn y pwnc hwnnw oedd y teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion, ac yna ‘Delio â dyled’ a ‘Help gyda Chostau Byw’.

Roedd cynnydd hefyd yn y defnydd o ‘delio â chymorth brys gydag arian a bwyd’ ac ‘delio â dyfarniadau llys gwlad (CCJs)’.

Roedd y termau chwilio mwyaf poblogaidd yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys “sgamiau”, “gorchymyn rhyddhau dyled” a “methdaliad”. Roedd “Lle i Anadlu”, cynllun sydd wedi’i gynllunio i roi amddiffyniadau cyfreithiol i bobl wrth iddynt gael cyngor ar ddyledion, hefyd yn ymddangos yn aml.

Mae’n edrych yn debyg y bydd y cynnydd yn y galw yn parhau ymhell i mewn i 2024. O’i gymharu â’r pythefnos yn arwain at Noswyl Nadolig (11/12 i 24/12), bu cynnydd o 23% yn nifer yr ymweliadau yn ystod pythefnos cyntaf Ionawr (21,466 o'i gymharu â 17,452).

Yn ogystal, bu cynnydd o 25% yng nghyfanswm yr ymwelwyr (18,384 o'i gymharu â 14,719) a chynnydd o 34% mewn ymweliadau â thudalennau (41,490 o'i gymharu â 30,917).

Mewn ymateb, dywed MaPS ei fod mewn sefyllfa dda i fodloni’r galw cynyddol ac mae’n annog pobl i fewngofnodi a dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Dywedodd Charlotte Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfarwyddyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae pobl ar hyd a lled y wlad ar fin wynebu cyfnod anodd eleni. Fel y dengys y ffigurau hyn, i lawer mae'r rhain eisoes wedi dechrau.

“Pan fydd pethau’n mynd yn anodd, mae angen i ni i gyd wybod bod yna rywle i droi. Os ydych yn poeni na allwch gael dau ben llinyn ynghyd, mae eich dyledion yn dechrau cynyddu neu os oes angen help arnoch gyda phenderfyniadau ariannol pwysig, rydym yn cynnig y man cyswllt cyntaf hwnnw.

“Mae ein gwasanaeth HelpwrArian am ddim yn cynnig canllawiau manwl, teclynnau pwrpasol a gwybodaeth am gymorth arbenigol fel y gallwch gael y cymorth sydd ei angen arnoch yn gyflym.

“Mae trafferthion ariannol yn effeithio’n negyddol ar eich bywyd mewn llawer o ffyrdd, ond mae’r ateb yn dechrau gyda’r cam cychwynnol hwnnw. Byddwn yn annog unrhyw un sydd mewn trafferthion i ddechrau’r daith honno heddiw.”

– DIWEDD –

Nol i'r brig

Nodiadau i olygyddion

Mae'r holl ffigurau'n cael eu casglu a'u cyhoeddi gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 1 agosaf. Yn ystod y cyfrifiadau, defnyddiwyd y ffigwr canrannol i un lle degol.

Maent yn ymwneud â chyfanswm ymweliadau â'r adran trafferthion ariannolYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i'r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i'r brig
All press releases HelpwrArian Pob datganiad i'r wasg

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.