Published on:
19 Chwefror 2024
Mae tri o bob pedwar athro yn y DU yn meddwl bod y rhan fwyaf o bobl ifanc bellach yn gadael yr ysgol neu’r coleg heb y sgiliau ariannol sydd eu hangen arnynt, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Yn ei arolwg barn o 1,012 o athrawon, a gynhaliwyd gan YouGov, dywedodd 76% fod mwyafrif y disgyblion yn gorffen eu haddysg heb y wybodaeth ariannol sydd ei hangen arnynt i fod yn oedolion.
Mae MaPS yn amcangyfrif bod tua 366,000 o bobl ifanc yn gorffen addysg yn flynyddol, sy'n golygu y gallai cannoedd o filoedd bob blwyddyn fod yn gadael yr ysgol heb wybodaeth ariannol. O ganlyniad, mae'n gofyn i bawb sy'n ymwneud ag addysg ariannol barhau â'u hymdrechion i helpu i gyrraedd y rhai sy'n colli allan.
Mae ymchwil eisoes yn dangos bod plant yn ffurfio arferion ariannol pan fyddant yn ifanc a bod agweddau tuag ato yn dechrau datblygu rhwng tair a saith oed, felly mae MaPS yn dweud bod angen i addysg ariannol ddechrau yn gynnar yn eu bywydau.
Roedd y rhan fwyaf o’r athrawon yn yr arolwg yn cytuno, gyda chwarter (26%) yn dweud y dylai ddechrau yn y meithrin. Dywedodd bron i hanner (44%) rhwng 5-7 oed ac roedd 19% yn meddwl 8-11 oed.
Credai llai nag un o bob deg (9%) y dylai ddechrau yn yr ysgol uwchradd yn unig neu'n hwyrach.
Datgelodd yr arolwg barn, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, hefyd fod bron pob athro (96%) yn credu y dylai ysgolion gynnig addysg ariannol, gyda 76% yn ei ystyried yn “bwysig iawn.”
Pan ofynnwyd iddynt restru'r rhesymau pam yr oedd myfyrwyr yn gadael heb baratoi, dywedodd 79% fod pynciau eraill yn cael blaenoriaeth. Dywedodd tua chwarter nad oedd gan y staff addysgu ddigon o hyder na sgiliau (25%) neu nad oeddent yn siŵr ble i ddod o hyd i’r cymorth a’r adnoddau cywir (26%).
Cymhlethdod pynciau a chynhyrchion ariannol (20%), bod arian yn bwnc sensitif (18%) a bod pobl ifanc heb ddiddordeb (15%) oedd y prif ymatebion eraill.
Mae arian ar y cwricwlwm ym mhob un o bedair gwlad y DU, fel arfer fel rhan o bynciau mathemateg a rhifedd, dinasyddiaeth a datblygiad personol. Fodd bynnag, mae'r oedran y mae'n ofynnol i ysgolion ei gyflwyno yn amrywio ac nid oes rhaid i rai ysgolion, fel academïau Lloegr, ei ddilyn.
Mae MaPS yn pryderu efallai nad yw’r neges yn torri trwodd, gyda’i ymchwil blaenorol yn dangos bod llai na hanner y plant (48%) yn dweud eu bod wedi cael addysg ariannol ystyrlon. Dim ond traean (33%) sy'n cofio derbyn un yr oeddent yn ei ystyried yn ddefnyddiol yn yr ysgol.
Mae'r rhai sy'n derbyn addysg ariannol ystyrlon yn fwy tebygol o fod yn gynilwyr gweithredol, bod ag agweddau mwy cadarnhaol tuag at arian a theimlo'n hyderus wrth ei reoli.
Fel rhan o’i Strategaeth ar gyfer Lles Ariannol y DU, mae MaPS yn gweithio gyda sawl partner i gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg ariannol gan ddwy filiwn, o’r 4.8m a gyflawnwyd yn 2020 i 6.8m erbyn 2030.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae MaPS wedi buddsoddi £1.1m mewn addysg ariannol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn cynnwys ymchwil manwl i’r hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc, pecyn Siarad Arian pwrpasol i ysgolion ac ariannu rhaglenni i brofi dulliau newydd o addysgu’r pwnc.
Mae MaPS hefyd yn galw ar ysgolion, rhieni, cyllidwyr, sefydliadau ariannol a darparwyr addysg ariannol i helpu, gan fod ganddynt ran fawr i'w chwarae wrth gyrraedd mwy a mwy o blant a phobl ifanc.
Dywedodd Lisa Davis, Uwch Reolwr Polisi ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae gan athrawon fewnwelediad unigryw i fywydau pobl ifanc ac mae eu neges yn glir; mae gormod yn colli allan ar y sgiliau arian sydd eu hangen arnynt. Gallai hyn olygu bod cannoedd o filoedd bob blwyddyn yn gadael gatiau'r ysgol am y tro olaf yn gwbl amharod ar gyfer rheoli eu harian.
“Mae’n eu gadael yn llai tebygol o ddeall cynnyrch ariannol, cynilo neu siarad am arian. Maent hefyd mewn mwy o berygl o wneud penderfyniadau ariannol gwael, gan adael lles ariannol y DU yn y dyfodol yn y balans.
“Mae Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol yn targedu dwy filiwn yn fwy o blant a phobl ifanc i gael addysg ariannol ystyrlon erbyn 2030. Mae gan bawb sy’n ymwneud â’u bywydau ran fawr i’w chwarae ac mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ar eu cyfer.”
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: