Published on:
09 Medi 2024
Mewn arolwg o 2,000 o bobl ifanc 18-25 oed yn y DU, darganfyddodd MaPS nad yw 1 o bob 3 (29%) sy’n gweithio ar hyn o bryd erioed wedi cyfrannu at bensiwn gweithle neu bensiwn preifat.
Yn ogystal, dim ond ychydig dros hanner (54%) sy'n cyfrannu at bensiwn ar hyn o bryd.
Mae MaPS yn galw ar bobl ifanc i dalu i mewn i’w pensiwn, hyd yn oed os mai dim ond swm bach y gallant ei gyfrannu.
Nid yw 1 o bob 3 o bobl 18-25 oed sy'n gweithio ar hyn o bryd erioed wedi cyfrannu at bensiwn.
“Rydym am i bobl ifanc wneud yn siŵr eu bod yn wybodus ac yn dechrau arferion cynilo iach yn gynnar yn eu gyrfaoedd” meddai MaPS.
Gall HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd gefnogi pobl ifanc i ddysgu am eu pensiynau.
Ymhlith cynilwyr (87%), ‘cynllunio at garreg filltir’ oedd y brif flaenoriaeth cynilo a adroddwyd ar gyfer pobl ifanc, gyda hanner y rhai 18-25 oed (51%) yn dweud eu bod yn cynilo i brynu eiddo, priodi, neu ddigwyddiadau bywyd tebyg.
Gan adael cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn y 6ed safle, gydag ychydig dros 1 o bob 8 (13%) yn dweud eu bod yn cynilo ar gyfer hyn.
Mae MaPS yn amlygu ymchwil gan yr Institute and Faculty of Actuaries (IFoA) sy’n dangos y gallai cyfrannu at eich pensiwn yn 35 oed yn lle 25 oed arwain at gronfa bensiwn o £500k yn lle £800k, colled andwyol o dros £300k ar gyfer cronfa ymddeol.
Meddai Jackie Spencer, Pennaeth Polisi Arian a Phensiynau, yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Rydym yn deall na all pawb gyfrannu symiau uchel at eu pensiwn yn rheolaidd.
“Mae’n galonogol bod ein data diweddar yn dangos bod 71% o bobl ifanc mewn cyflogaeth llawn amser yn cyfrannu at bensiwn. Mae hyn yn debygol o ddangos effaith gadarnhaol ymrestru awtomatig yn y gweithle, a byddem yn annog pobl ifanc sy’n dechrau swyddi newydd i gyfrannu at eu pensiwn gweithle.
“Mae’n bwysig bod pobl ifanc sy’n dechrau yn eu gyrfaoedd yn gwybod y gall hyd yn oed cyfraniad bach bob mis wneud gwahaniaeth i’w cronfa ymddeoliad, ac mae rhywbeth yn well na dim.
I'r rhai sy'n hunangyflogedig ar hyn o bryd neu nad ydynt mewn cyflogaeth llawn amser, ceisiwch roi arian o'r neilltu ar gyfer ymddeoliad lle y gallwch ac ystyriwch bensiwn personol. Pan fydd pobl ifanc yn cyrraedd y cam cyflogaeth llawn amser, byddem yn annog manteisio ar ymrestru awtomatig i’ch pensiwn os gallwch chi.”
Mae MaPS yn deall nad yw pawb yn gallu talu i mewn i bensiwn, yn enwedig os ydynt yn cynilo arian am resymau eraill, ond mae’n bwysig bod yn wybodus wrth wneud penderfyniadau ariannol.
Pan fyddwch yn rhan o gynllun pensiwn gweithle, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfraniadau cyflogwr a pheth o’r arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth wrth i dreth fynd tuag at eich pensiwn yn lle.
Mae gan wefan HelpwrArian MaPS ddigonedd o ganllawiau diduedd ac am ddim i gynnig cymorth, gan gynnwys ein cyfrifiannell pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd a theclyn gwe-sgwrs lle gall pobl ifanc gael mynediad at ganllawiau pensiwn.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: