Published on:
17 Mehefin 2024
Mae Rheolwr Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Lee Phillips, wedi derbyn MBE ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni am ei chyflawniadau eithriadol mewn addysg ariannol a gallu ariannol.
Mae Lee yn arbenigwr lles ariannol gwirioneddol angerddol, ac mae wedi gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru.
Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac wedi arwain gwaith ar allu a lles ariannol yng Nghymru ers ymuno â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn 2008, hyd yma gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Gan weithio i MaPS ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Lee yn gyfrifol am greu, cydlynu a chyflawni Cynllun Cyflawni Lles Ariannol Cymru.
Wrth gydnabod ei MBE, dywed Lee Phillips:
“Rwy’n hynod ddiolchgar i bwy bynnag a’m henwebodd am y gydnabyddiaeth fawreddog hon y mae’n anrhydedd i mi ei derbyn.
“Ni fyddai’r gwaith rydw i wedi’i gyflawni yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi bod yn bosibl heb angerdd a chydweithrediad y rhai o fewn MaPS a’r cydweithwyr allanol rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw ers blynyddoedd lawer.
“Mae mewnwelediad ac ymroddiad gan gymaint o bobl wedi cyfoethogi lles ariannol Cymru, ac mae hyn yn teimlo i mi fel cydnabyddiaeth arbennig iawn o flynyddoedd o waith caled gan lawer, nid fi fy hun yn unig.
“Mae gweithio ym MaPS, ac yn enwedig gweithio ar y thema drawsbynciol o les ariannol yng Nghymru, wedi bod yn brofiad heriol ond goleuedig a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i haeddu’r anrhydedd aruthrol hon – hyd yn oed os nad wyf bob tro yn gwybod beth i’w wneud!"
Dywed Oliver Morley, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae cydnabod Lee Phillips yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn wirioneddol yn gydnabyddiaeth o’r blynyddoedd lawer o waith caled, angerddol ac ymroddedig y mae Lee wedi’i dangos, nid yn unig yn gweithio i MaPS ond hefyd am ei gwaith yn y sector lles ariannol ehangach.
"Mae gwaith Lee ar lythrennedd a gallu ariannol wedi cael effaith aruthrol wrth newid bywydau ledled Cymru, ac rwyf mor falch o weld ei hymrwymiad yn cael ei gydnabod fel hyn.”
Gadawodd Lee addysg yn wreiddiol gydag un Lefel O ac aeth ymlaen i ymuno â'r Cynllun Hyfforddiant Ieuenctid gyda British Rail.
Drwy gydol ei gwaith, mae Lee yn tynnu ar ei gyrfa waith ieuenctid gynnar, lle bu’n darparu gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru.
Ochr yn ochr â’i gwaith hirsefydlog yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, mae Lee wedi dal swyddi ychwanegol, gan gynnwys bod yn ymddiriedolwr a Chadeirydd nifer o sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector yn flaenorol.
Mae Lee hefyd ar hyn o bryd yn aelod o’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol a Fforwm Addysg Ariannol Cymru, ynghyd â grwpiau cynghori a rhanddeiliaid eraill Llywodraeth Cymru.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: