Gan adeiladu ar lwyddiant y peilot Siarad Dysgu Gwneud (TLD) yn 2015–2018, comisiynodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) nifer o brosiectau pellach a gwerthusiadau cysylltiedig i wella eu dealltwriaeth o sut y gall TLD gefnogi rhieni mewn gwahanol amgylchiadau, ac i ddeall effeithiolrwydd gwahanol ddulliau cyflawni.
Fel rhan o Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol, mae gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau nod cenedlaethol o ddwy filiwn yn fwy o blant a phobl ifanc yn derbyn addysg ariannol ystyrlon erbyn 2030.
Er mwyn helpu i gyrraedd y nod hwn, gweithiodd MaPS gyda phartneriaid am y tro cyntaf i ddatblygu a chyflwyno'r rhaglen flaenllaw Siarad Dysgu Gwneud, sydd wedi'i thargedu at rieni plant rhwng tair ac 11 oed, sy'n eu cefnogi wrth siarad â'u plant am arian.
Nod Siarad Dysgu Gwneud yw annog rhieni i siarad â'u plant am arian a chreu cyfleoedd i'w plant gael profiad o'i reoli.
Mae'n sesiwn dwy awr sy'n cynnwys gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â 'modelu arian', senarios taith siopa, siarad am 'bŵer plagio', gemau arian poced a mwy.
Yn 2019, bu MaPS yn cydweithio â Campaign for Learning i gyflwyno a gwreiddio Siarad Dysgu Gwneud yng Nghymru, tra hefyd yn comisiynu Ymchwil Arad i werthuso effeithiolrwydd y prosiect ar gyfer ymarferwyr, rhieni a phlant. Roedd y prosiect hwn yn wahanol i'r dull gwreiddiol yn y ffyrdd canlynol:
Yn 2020 aeth MaPS ati i ffurfio partneriaeth â Reed in Partnership (yng Ngogledd Iwerddon) a Campaign for Learning (yn yr Alban) i brofi dichonoldeb darparu TLD ar raddfa mewn rhannau eraill o'r DU. Unwaith eto, roedd nifer o ffyrdd yr oedd y prosiectau'n wahanol yn eu dull o ymdrin â'r peilot TLD gwreiddiol, yr oeddem yn awyddus i'w profi:
Roedd y prosiectau yn cyd-fynd â dechrau'r pandemig COVID-19, felly addaswyd deunyddiau ar gyfer darpariaeth rithwir, a oedd hefyd yn wahanol i'r dull cyflwyno gwreiddiol wyneb yn wyneb.
Yng Ngogledd Iwerddon, comisiynwyd IFF i ymgymryd â gwerthusiad proses a chanlyniadau'r prosiect, ac yn yr Alban cynhaliwyd hyn gan ScotCen.
Yn 2020, bu MaPS yn cydweithio â Grŵp NatWest i archwilio darparu sesiynau TLD yn ddigidol gan Fancwyr Cymunedol a staff banc eraill i rieni. Rhoddodd hyn gyfle i MaPS brofi fersiwn o Siarad Dysgu Gwneud a oedd yn wahanol i'r dull gwreiddiol yn y ffyrdd canlynol:
Comisiynwyd IFF i ymgymryd â gwerthusiad proses a chanlyniadau’r prosiect.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith addysg ariannol, gan gynnwys Siarad Dysgu Gwneud, cysylltwch â'n tîm polisi plant a phobl ifanc ar [email protected].
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol a dilynwch MaPS ar TwitterYn agor mewn ffenestr newydd, LinkedInYn agor mewn ffenestr newydd a YouTubeYn agor mewn ffenestr newydd