Cyhoeddwyd ar:
17 Awst 2023
Cyhoeddwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) ei Gynllun Corfforaethol blynyddol, heddiw. Mae Cynllun Corfforaethol 2023/24 yn cwmpasu ail flwyddyn Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd gyntaf erioed MaPS.
Mae’n amlinellu pum thema o flaenoriaeth a fydd yn helpu MaPS i ddarparu ei wasanaethau craidd i filiynau o bobl, fel eu bod yn cael yr arweiniad a’r cyngor sydd eu hangen arnynt ar arian, dyled a phensiynau, sut bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
Dywed Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae teimlo’n hyderus ac mewn rheolaeth o’ch sefyllfa ariannol yn hanfodol, ac mae’n bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, wrth i bobl wynebu pwysau costau byw.
“Mae ein cynllun corfforaethol yn amlinellu sut y bydd MaPS yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella lles ariannol pobl ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Bydd darparu yn unol â’n blaenoriaethau yn sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Dywedodd Sara Weller, Cadeirydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae gan MaPS rôl allweddol i’w chwarae wrth wneud arweiniad ariannol diduedd yn hygyrch i bawb, yn enwedig gan ystyried yr heriau economaidd presennol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid niferus i helpu pobl ledled y wlad i deimlo eu bod yn fwy abl i reoli eu harian.”
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: