Published on:
05 Tachwedd 2024
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi canfod nad yw ychydig dros ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at bensiwn erioed wedi ymgysylltu ag ef, o'i arolwg o dros 12,000 o oedolion y DU a gynhaliwyd yn Haf 2024.
Er mai nhw yw'r ddau 'weithred uchaf' dywedodd pobl eu bod wedi eu cymryd i reoli eu pensiwn, dim ond ychydig dros chwarter yr oedolion yng Nghymru rhwng 18 a 65 oed sydd wedi gwirio eu pensiwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, naill ai trwy ddarllen eu datganiad blynyddol neu fewngofnodi i blatfform ar-lein.
Wnaeth canlyniadau ychwanegol canfod mai dim ond ychydig o dan un o bob pump o bobl yng Nghymru sydd wedi trafod eu pensiynau gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr yn ystod y 12 mis diwethaf.
Wrth ryddhau'r data hwn, mae MaPS yn gobeithio nid yn unig annog pobl i wirio eu pensiynau, ond hefyd i siarad am arian gyda ffrindiau a theulu. Mae hyn yn unol â'r Wythnos Siarad Arian; Ymgyrch flynyddol MaPS, sy'n annog pobl i gael sgyrsiau mwy agored am arian.
Mae ymchwil MaPS yn dangos bod y rhai sy'n siarad am arian yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell ac yn teimlo llai o straen neu bryder a’u bod gyda mwy o reolaeth.
*Doedd Richard, 56 oed, erioed wedi gwirio ei bensiwn. Ar ôl gwneud hynny, darganfu ei fod wedi arbed bron i £70,000 yn ei gronfa bensiwn.
Meddai: "Wnes i ddim gwirio fy mhensiwn, felly roedd yn syndod enfawr i ddarganfod faint o arian roeddwn i wedi'i gynilo. Gallaf nawr ddechrau cynllunio ar gyfer fy ymddeoliad mewn ffordd wahanol iawn.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb wirio, i ddarganfod faint sydd yn eu pensiwn, a siarad â'ch ffrindiau a'ch teulu amdano - byddaf yn dweud wrth bawb rwy'n eu hadnabod i wneud yn siŵr eu bod yn gwirio eu pensiwn o hyn ymlaen."
Nid yw stori Richard yn syndod, gan nodi bod ymchwil MaPS yn dangos bod ychydig dros hanner y bobl yng Nghymru yn gweld pensiynau'n ddryslyd, ac mae ychydig dros dwy o bob pump yn dweud nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau o ran cynllunio ymddeoliad.
Ar ôl i chi wirio'ch pensiwn, gallwch ddefnyddio'r Cyfrifiannell Pensiwn ar HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod yn iawn beth mae eich cronfa bensiwn yn ei olygu ar gyfer eich ymddeoliad.
Meddai Lawrence Davies, Rheolwr Partneriaethau Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Ni allwch ddechrau ymgysylltu â'ch pensiwn yn rhy gynnar, felly beth bynnag fo'ch oedran, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch pensiwn, ac yn siarad â phobl amdano.
“Unwaith y byddwch yn gwybod faint sydd gennych a faint yw eich cyfraniadau cyfredol, gallwch ddechrau cymryd camau ychwanegol. Gallai'r rhain gynnwys talu mwy os gallwch chi, neu ddefnyddio'r Cyfrifiannell Pensiwn HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd yn unig i ddarganfod beth mae eich cynilion pensiwn yn ei olygu ar gyfer eich dyfodol.
“Ni waeth sut rydych chi'n ei wneud; P'un a ydych yn darllen eich datganiad blynyddol, yn cysylltu â'ch darparwr pensiwn dros y ffôn, neu fewngofnodi i'ch platfform pensiwn ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich pensiwn, ac annog eraill i wneud yr un peth.”
I ddarganfod beth mae eich cynilion pensiwn yn ei olygu ar gyfer eich dyfodol, defnyddiwch Cyfrifiannell Pensiwn HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: