Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Pump ffordd syml o hybu eich cynilion

Published on:

22 Medi 2025

Fel rhan o Wythnos Cynilo'r DU, mae Michael Royce, Arweinydd Cynilo yn Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), yn cynnig pum awgrym i wneud i'ch arian fynd ymhellach a rhoi hwb i'ch cynilion.

Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi canfod nad yw 46% o bobl yn cynilo'n rheolaidd. Mae cynilo cymaint ag y gallwch mor rheolaidd â phosibl yn helpu mewn cyfnodau o angen, gan roi mwy o ddiogelwch ariannol i chi.

1. Defnyddiwch declynnau ac adnoddau am ddim

Mae yna lawer o adnoddau a theclynnau am ddim a all eich helpu i arbed.

Gall Cynlluniwr CyllidebYn agor mewn ffenestr newydd HelpwrArian eich  helpu i weld ble rydych chi'n gwario a ble gallech dorri yn ôl i roi mwy mewn cynilion. Ac mae ei Gyfrifiannell CyniloYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gynilo ar gyfer pryniant mawr.  

Mae'r Cyfrifiannell Cynilo hefyd yn cynnig awgrymiadau a chefnogaeth i'ch helpu i aros ar y trywydd iawn.

Nol i'r brig

2. Defnyddiwch gyfrif cynilo gyda chyfradd dda

Dangosodd ymchwil gan The Building Society Association (BSA) fod 39% o'r rhai rhwng 18 a 34 oed yn dal eu cynilion mewn cyfrif cyfredol yn hytrach na chyfrif cynilo. 

Os yw'ch cynilion mewn cyfrif cyfredol, mae'n well i chi eu symud i gyfrif cynilo cyfradd uchel sy'n ennill llog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn siopa o gwmpas am y cyfraddau gorau, gan y bydd gwahanol fanciau yn cynnig gwahanol symiau o log. 

Sicrhewch bod y cyfrif yn addas i chi. Ystyriwch a oes unrhyw ffioedd neu daliadau am drosglwyddiadau neu dynnu arian, a pha mor hawdd y gallwch gael mynediad at eich arian.

 Defnyddiwch declyn Cymharu Cyfrifon Banc HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i'r cyfrif cywir i chi.

Nol i'r brig

3. Defnyddiwch ISAs ar gyfer twf di-dreth

Mae Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn ffordd wych o adeiladu eich cynilion mewn ffordd effeithlon o ran treth.  

Bob blwyddyn dreth mae'r llywodraeth yn gosod uchafswm y gallwch ei roi mewn ISA – ar hyn o bryd mae hyn yn £20,000 ac, gydag ISA, nid ydych yn talu treth incwm ar y llog rydych chi'n ei ennill. 

Mae yna lawer o wahanol fathau, gan gynnwys y rhai sydd â chyfraddau tymor penodol, ISAs Stociau a Chyfranddaliadau ac ISAs Gydol Oes. 

Darllenwch fwy am ISAs ar HelpwrArian.Yn agor mewn ffenestr newydd 

Nol i'r brig

4. Manteisiwch o’r cynllun Cymorth i Gynilo

Gall pobl sy’n gweithio ac yn derbyn Credyd Cynhwysol fanteisio ar gynllun Cymorth i Gynilo’r llywodraeth, ond yn 2023/24 dim ond 2% ohonynt a wnaeth agor cyfrif.

Gyda'r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu bonws o 50% at eich cynilion ar ôl dwy flynedd, a gallwch gael y cyfrif am hyd at bedair blynedd.

Pe bai gennych £1,200 ar ôl dwy flynedd, byddai hyn yn cynyddu i £1,800 gyda Chymorth i Gynilo.

Darllenwch fwy am Gymorth i Gynilo ar HelpwrArian.Yn agor mewn ffenestr newydd 

Nol i'r brig

5. Gwiriwch am gynilion anghofiedig

Mae miliynau o bunnoedd yn aros heb eu hawlio mewn hen gyfrifon, Bondiau Premiwm, a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Mae gwasanaethau olrhain ar-lein y llywodraeth yn helpu i ailgysylltu pobl â’u harian coll o gyfeiriadau blaenorol neu gyfrifon anghofiedig.

Os ydych chi, neu os ydych chi’n adnabod rhywun rhwng 16 a 18 oed, anogwch nhw i ymweld â HelpwrArian i gael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant coll am ddim.Yn agor mewn ffenestr newydd. 

Mae HelpwrArian yn darparu arweiniad diduedd am ddim ar gynilion a phynciau arian eraill. Ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.

– DIWEDD  –

Nol i'r brig

Nodiadau i'r golygydd

  • Nid yw 46% o bobl yn cynilo’n rheolaidd” – ystadegyn wedi’i gymryd o arolwg GolwgArian gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, a gynhaliwyd yn 2024 o sampl gynrychiadol ledled y DU o dros 12,500 o gyfranogwyr.
Nol i'r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i'r brig
Cynilion Pob datganiad i'r wasg HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.