Published on:
04 Awst 2025
Mae Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn cynnig arweiniad i weithwyr lletygarwch a manwerthu i'w helpu i wneud y gorau o'r hwb tymhorol a pharatoi eu harian ar gyfer misoedd tawelach i ddod.
Mae rhannau o Gymru yn paratoi at haf prysur o dwristiaeth; ond nid yw'r tymor yn para am byth, a gall y gostyngiad mewn nifer yr ymwelwyr adael gweithwyr mewn sefyllfa anodd yn ariannol.
Mae Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn MaPS. Dywed Lee:
“Mae rheoli eich arian ar gyfer y tymor hir yn allweddol i gyflawni lles ariannol da, ac rydym eisiau i bobl sy'n gweithio mewn twristiaeth mewn ardaloedd ledled Cymru wybod bod gwasanaethau fel HelpwrArian yn bodoli i gynnig arweiniad.
“Mae twristiaeth ranbarthol yn cefnogi miloedd o swyddi ledled Cymru ac yn cyfrannu'n fawr at yr economi gyffredinol.
“Mae'r cymunedau hyn yn haeddu offer ariannol sy'n adlewyrchu eu patrymau gwaith a'u cylchoedd incwm, ac i wybod bod gwasanaeth cyfeillgar fel HelpwrArian yno i gynnig arweiniad bob amser, gan gynnwys ar adegau o angen.”
Mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i roi hwb i'ch cyllid hirdymor tra bod yr haf yma a'r tiliau'n canu:
Os ydych chi dros 22 oed ac yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn, byddwch chi'n cael eich cofrestru'n awtomatig i'ch cynllun pensiwn gweithle.
Efallai na fydd rhai gweithwyr mewn mannau poblogaidd manwerthu a lletygarwch yn bodloni'r meini prawf, ac efallai na fyddwch chi'n cael eich cofrestru'n awtomatig ar eich pensiwn gweithle. Gallwch chi gofrestru o hyd, dim ond siarad â'ch cyflogwr amdano fydd angen i chi ei wneud.
Gall bod yn rhan o'ch pensiwn gweithle hefyd olygu eich bod chi'n elwa o gyfraniad cyflogwr yn ogystal â rhyddhad treth ar y dreth incwm y byddech chi fel arfer yn ei thalu - yn y bôn, ychwanegiad gan y Llywodraeth.
Gall gweithio yn yr 'economi gig' lle mae'ch incwm yn amrywio ei gwneud hi'n anodd talu i mewn i'ch pensiwn yn rheolaidd. Ond nid oes rhaid i chi dalu i mewn iddo bob mis - gallwch chi wneud hynny mewn cyfnodau prysurach a chymryd saib mewn rhai tawelach.
Ac mae pob swm bach rydych chi'n ei gyfrannu yn cronni, felly mae'n werth talu i mewn i'ch pensiwn yn nhymor yr haf os gallwch chi.
Defnyddiwch Gyfrifiannell Pensiwn HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod beth rydych chi ar y trywydd i'w dderbyn yn ystod eich ymddeoliad a gweld sut y gall hynny newid pan fyddwch chi'n rhoi hyd yn oed ychydig bach i mewn i'ch pensiwn yn ystod cyfnod prysur yr haf.
Tra bod gennych chi arian yn dod i mewn, mae'n wych cynilo ar gyfer argyfwng.
Weithiau gall fod yn anodd gwybod faint i'w gynilo neu faint o amser y bydd yn ei gymryd. Gall Cyfrifiannell Cynilion HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd eich helpu i gadw'ch cynilion ar y trywydd iawn gyda rhai awgrymiadau defnyddiol.
Pan fyddwch yn gweithio yn yr economi dwristiaeth, hyn a hyn o gynilo neu baratoi y gallwch chi ei wneud. Weithiau yn y gaeaf, efallai na fydd gennych chi ddigon i'ch gweld chi drwodd.
Os byddwch chi'n darganfod eich bod yn y sefyllfa honno, mae hefyd gan HelpwrArian ystod o declynnau i'ch cefnogi pan fydd cyllid yn dynn.
Mae ein Blaenoriaethwr BiliauYn agor mewn ffenestr newydd yn eich helpu i adnabod pa filiau i'w talu gyntaf, os na allwch eu talu i gyd.
Gall ein teclyn, Y Ffordd Orau i Fenthyg ArianYn agor mewn ffenestr newydd, eich helpu i osgoi benthyg arian mewn ffordd a allai achosi niwed i chi yn yr hirdymor.
Mae'r teclyn yn dangos y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian hyd at £50,000, cymharu'r gwahanol opsiynau benthyg, a'ch helpu i ddewis y ffordd orau i fenthyg arian sy'n gweithio i chi.
Ac yn olaf, gall ein Teclyn Lleolwr Cyngor ar DdyledionYn agor mewn ffenestr newydd fod yn drobwynt gwych os ydych chi wedi methu neu'n methu â gwneud taliad pwysig fel eich rhent, morgais, neu dreth y cyngor.
Dywed Lee Phillips:
“Yn MaPS, nid ydym yn ceisio dweud yr hyn maen nhw eisoes yn ei wybod wrth bobl sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn - bod ymwelwyr ac incwm yn amrywio rhwng tymhorau prysur a thawelach. Yr hyn yr ydym yma i'w wneud yw helpu pobl i baratoi'n ariannol ar gyfer y misoedd tawelach hynny gan ddefnyddio HelpwrArian.”
Mae HelpwrArian yma i'ch helpu i wneud i'ch arian fynd ymhellach ac mae'n lle y gallwch droi ato os ydych mewn anawsterau ariannol. Mae ein teclynnau am ddim, yn ddiduedd, ac yn hawdd eu defnyddio.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: