Published on:
03 Tachwedd 2025
Mae ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dangos bod ychydig dros pedwar o bob deg o oedolion yn y DU yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â'u ffrindiau am arian, ac ychydig dros hanner yn gyfforddus yn siarad am y pwnc gyda'u teulu.
Mae arolwg o dros 2,400 o oedolion yn y DU yn dangos bod ychydig dros pedwar o bob deg (44%) yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â'u ffrindiau am arian, gydag ychydig dros hanner (52%) yn teimlo'n gyfforddus yn siarad am y pwnc gydag aelodau o'u teulu.
Mae'r ymchwil, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ym mis Medi 2025, hefyd yn dangos bod menywod yn llawer llai tebygol o deimlo'n gyfforddus wrth siarad am arian gyda'u ffrindiau (39%) o'u cymharu â dynion (50%). Mae hyn er gwaethaf y canfyddiad cyffredin bod menywod yn fwy tebygol o siarad â'u ffrindiau am faterion personol.
Canfuwyd hefyd bod pa mor gyfforddus rydyn ni'n teimlo wrth siarad am arian yn newid wrth i ni fynd yn hŷn. Dywedodd y rhai 55+ oed eu bod yn teimlo'n sylweddol llai cyfforddus yn siarad â'u ffrindiau am arian (37%) o'u cymharu â'r rhai 18-34 oed (56%).
Ymhlith y rhesymau pam mae pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad am arian gydag anwyliaid roedd embaras, ofn barnu a theimlad o fethiant.
Mae'r ymchwil newydd hon yn cael ei ryddhau fel rhan o ymgyrch flynyddol MaPS, Wythnos SiaradArian. Cynhelir Wythnos Siarad Arian rhwng 3-7 Tachwedd, ac mae'n anelu at leihau'r stigma sy'n ymwneud ag arian trwy annog sgyrsiau agored ymhlith pawb, o deuluoedd a ffrindiau i gydweithwyr a chymunedau.
Meddai Jackie Spencer o'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Nid oes angen i sgyrsiau arian fod yn berffaith, ond mae angen iddynt ddigwydd.
"Mae cymryd rheolaeth o arian, siarad yn agored amdano a rhannu'r baich y gall pryderon arian ei achosi yn aml yn helpu pobl i deimlo'n llai o straen neu bryder a mwy o reolaeth. Mae hefyd yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol gwell, mwy gwybodus.
"P'un a yw'n sgwrs gyflym am gyllidebu gyda phartner, cwestiwn i weithiwr proffesiynol pensiynau, neu gyflwyno'r cysyniad o gynilion i blentyn, byddwn yn annog pawb i ddechrau'r sgwrs a chymryd y cam cyntaf hwnnw."
Dyma pump peth syml i feddwl amdanynt wrth gael sgwrs gydag anwylyd am arian:
Er bod siarad am arian gyda ffrindiau a theulu yn bwysig, mae hefyd yn hanfodol cael mynediad at y cymorth am ddim sydd ar gael drwy HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.
Dechreuodd Paul o Swydd Hertford sgwrs gyda HelpwrArian yn ystod cyfnod anodd yn ei fywyd ac mae'n annog eraill i wneud yr un peth:
"Ar ôl llawdriniaeth fawr ar y galon, strôc a arweiniodd at barlysiad, a chwâl perthynas, cafodd fy nghyllid ergyd enfawr.
"Ar ôl i'm banc ddechrau achos ailfeddiannu, cysylltais â HelpwrArian. Roedd angen i mi ddarganfod beth oedd fy opsiynau a rhoddodd HelpwrArian fi mewn cysylltiad â'r bobl iawn. Doedden nhw ddim yn feirniadol a gwnaethant fy helpu o sefyllfa enbyd.
"Ar ôl yr alwad roeddwn i'n teimlo mwy o reolaeth, yn deall fy opsiynau a beth i'w wneud nesaf."
– DIWEDD –
Mae Wythnos Siarad Arian yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sydd wedi'u cynllunio i gynyddu ymdeimlad pobl o les ariannol trwy eu hannog i sgwrsio am gyllid personol.
Bydd yr ymgyrch eleniYn agor mewn ffenestr newydd yn cael ei chynnal rhwng 3-7 Tachwedd 2025 i annog pobl ledled y DU i 'ddechrau'r sgwrs'.
Nid oes angen i sgyrsiau arian fod yn berffaith –ond mae angen iddynt ddigwydd.
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: