Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Mae 10.7 miliwn o oedolion y DU yn rhy brysur neu'n rhy ddryslyd i feddwl am eu pensiwn

Published on:

05 Tachwedd 2025

Mae ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dangos bod bron 11 miliwn o oedolion yn y DU naill ai'n rhy ddryslyd neu'n rhy brysur i feddwl am eu pensiwn.

  • Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan MaPS yn cael ei ryddhau fel rhan o Wythnos Siarad Arian, ymgyrch flynyddol sydd wedi'i chynllunio i annog pobl i #DechrauSgwrs am arian a phensiynau.
  • Mae MaPS yn annog pobl i siarad ag arbenigwyr pensiwn ar HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd am arweiniad am ddim neu i ddefnyddio Pension Wise Digital i gael mynediad at yr un arweiniad arbenigol am ddim yn eu hamser eu hunain ac o amgylch eu hamserlenni prysur.
  • Mae Charlotte Jackson o MaPS yn dweud: "Mae Pension Wise Digital ar HelpwrArian yn galluogi pobl i reoli eu pensiwn mewn ffordd sy’n addas i'w bywydau prysur."
  • Manteisiodd David o Hertfordshire ar apwyntiad Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd pan oedd yn rhaid iddo roi'r gorau i weithio. Dywedodd, “Rwy'n credu'n gryf y dylai pawb ffonio a siarad ag arbenigwr pensiwn.”

Mae arolwg o dros 12,000 o oedolion ledled y DU yn dangos bod 10.7 miliwn o oedolion naill ai'n rhy ddryslyd neu'n rhy brysur i feddwl am eu pensiwn.

Hefyd, canfuwyd nad yw 22.5 miliwn o oedolion yn y DU yn deall digon am bensiynau i wneud penderfyniadau am ymddeoliad, ac nad oes gan hanner (50%) gynllun ar gyfer eu harian yn eu hymddeoliad.

Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), yn cael ei rhannu yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch flynyddol MaPS, Wythnos Siarad Arian, sy'n annog pobl i #DechrauSgwrs a siarad yn fwy agored am eu cyllid, gan gynnwys eu pensiwn.

Dywed Charlotte Jackson o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

"Rydyn ni'n gwybod y gall ein ffordd o fyw brysur ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i'r amser i feddwl am bensiynau ac ymddeoliad, ond mae'n syniad da i ddechrau cyn gynted â phosib.

"Gall siarad ag arbenigwr pensiwn leihau’r dryswch ynghylch pensiynau. Nid oes rhaid i’r sgyrsiau gymryd llawer o amser nac i fod yn berffaith, ond mae angen iddynt ddigwydd.

"Apwyntiad awr am ddim yw Pension Wise i’r rhai dros 50 oed sydd â phensiwn Cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Os nad yw’n ymarferol i chi ymrwymo i apwyntiad awr lawn mae Pension Wise Digidol yn hyblyg ac yn addasu i’ch amserlen, fel y gallwch ddechrau'r apwyntiad a'i godi eto yn eich amser eich hun.

"P’un a ydych chi’n agosáu at ymddeoliad neu newydd ddechrau gweithio, byddwn i’n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod nhw’n deall eu pensiynau. 

"Dechreuwch y sgwrs gydag arbenigwr pensiwn ar HelpwrArian trwy we-sgwrs, WhatsApp, neu dros alwad ffôn, a chymerwch y cam cyntaf i ennill rheolaeth dros eich cyllid yn y dyfodol.”

Manteisiodd David, 56 oed o Hertfordshire ar apwyntiad Pension Wise pan oedd yn rhaid iddo roi'r gorau i weithio. Dywedodd:

"Ar ôl siarad ag arbenigwr HelpwrArian, rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus am bensiynau a'r penderfyniadau a allai fod wedi niweidio fy nyfodol ariannol pe na bawn i wedi siarad â rhywun.

"Roedd y person o Pension Wise mor amyneddgar a gwybodus, a hoffwn ddweud diolch eto i bawb sy'n ymwneud â darparu apwyntiadau Pension Wise am ddim.

"Rwy'n credu'n gryf y dylai pawb siarad ag arbenigwr pensiwn."

Dyma dri pheth syml i'w cofio wrth siarad ag arbenigwr pensiwn:

  1. Maen nhw yno i'ch helpu chi, nid i'ch barnu chi. Peidiwch â phoeni am beidio â gwybod llawer am bensiynau – dyna beth mae ein harbenigwyr yno i'ch helpu chi. P'un a ydych chi'n defnyddio gwe-sgwrs HelpwrArian, gwasanaeth ffôn, neu apwyntiad Pension Wise, byddwch yn cwrdd ag arbenigwr cyfeillgar sy'n barod i'ch cefnogi.
  2. Ceisiwch ddod â chymaint o wybodaeth â phosibl gyda chi. Mae hyn yn cynnwys gwerth eich cronfa bensiwn (neu gronfeydd) a gwybod pa fath(au) o bensiynau sydd gennych. Gall gwybodaeth am eich cyllid arall hefyd fod yn ddefnyddiol, gan gynnwys eich incwm presennol, budd-daliadau rydych yn eu derbyn, ac unrhyw ddyledion sydd gennych.
  3. Gwybod yr hyn yr hoffech ei gael ohono. P’un a ydych eisiau gwybod pryd i ddechrau cymryd eich pensiwn, sut i dynnu arian allan o’ch pensiwn, neu beth yw eich opsiynau pensiwn, mae’n dda cael nod penodol mewn golwg.

– DIWEDD  –

Nol i'r brig

Nodiadau i'r Golygydd

  • Cymerwyd yr ystadegau o arolwg MoneyView y Gwasanaeth Arian a Phensiwn, a gynhaliwyd yn 2024 o sampl cynrychioliadol ledled y DU o dros 12,000 o gyfranogwyr.
Nol i'r brig

Ynglŷn ag Wythnos Siarad Arian

Mae Wythnos Siarad Arian yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sydd wedi'u cynllunio i gynyddu ymdeimlad pobl o les ariannol trwy eu hannog i sgwrsio am gyllid personol.

Bydd yr ymgyrch eleniYn agor mewn ffenestr newydd yn cael ei chynnal rhwng 3-7 Tachwedd 2025 i annog pobl ledled y DU i 'ddechrau'r sgwrs'.

Nid oes angen i sgyrsiau arian fod yn berffaith –ond mae angen iddynt ddigwydd.

Nol i'r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i'r brig
Pension Wise Pensiynau Wythnos Siarad Arian Pob datganiad i'r wasg HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.