Published on:
27 Ionawr 2025
Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dangos nad oes gan 53% o oedolion 50-64 oed a 22% o'r rhai 65 oed a’n hŷn ewyllys.
Efallai nad arian yw'r peth cyntaf ar eich meddwl os ydych chi wedi colli rhywun sy'n agos atoch chi. Ond, pan fyddwch chi'n barod, fe welwch y gall fod llawer i'w ddatrys.
Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dangos nad oes gan 53% o oedolion 50-64 oed a 22% o'r rhai 65 oed a’n hŷn ewyllys.
Mae trefnu ystâd pan nad oes ewyllys yn mynd i gymryd ychydig yn hirach na phan fydd un yn bodoli, ond nid yw mor anodd nac yn frawychus ag y byddech chi'n meddwl.
Mae Jackie Spencer, Pennaeth Polisi Arian a Phensiynau MaPS, yn rhannu chwe ganllaw HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd i'w hystyried:
Gelwir person sy'n marw heb ewyllys yn 'marw yn ddiewyllys'. Gall hyn wneud trefnu eu hystâd ychydig yn fwy cymhleth oherwydd bod y gyfraith yn penderfynu pwy sy'n etifeddu yn unol â meini prawf penodol o'r enw 'rheolau diewyllys'.
Os oes perthynas neu ffrind sy'n fodlon ac yn gallu delio â’r ystâd, gallant wneud cais am 'grant gweinyddu' – a elwir hefyd yn grant cynrychiolaeth, grant profiant, neu gadarnhad (yn yr Alban).
Mae'r grant yn eu gwneud yn 'weinyddwr' yr ystâd ac yn caniatáu iddynt brisio'r ystâd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu'r ystâd yn unol â'r rheolau diewyllys.
Weithiau mae trefnu ystâd lle nad oes ewyllys yn anodd. Yn enwedig os nad yw'n glir pa asedau oedd gan yr unigolyn, neu os oes perthnasau teuluol cymhleth sy'n ei gwneud yn anodd dosbarthu'r ystâd. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae'n synhwyrol ystyried defnyddio cyfreithiwr neu gyfrifydd sy'n arbenigo mewn profiant. Bydd hyn yn helpu i wneud y broses yn haws ac ychydig yn gyflymach.
Mae'n werth gwybod y gall defnyddio arbenigwr profiant fod yn ddrud a dylech gyllidebu miloedd o bunnoedd ar gyfer eu gwasanaethau. Os byddwch yn penderfynu ymgymryd â'r gwaith o weinyddu'r ystâd eich hun, gallwch barhau i dalu cyfreithiwr am eu hamser os oes rhai pethau fel gwirio'r cais profiant neu weithio allan sut i ddosbarthu'r ystâd.
Y cam cyntaf wrth wneud cais am brofiant yw dod o hyd i ddogfennau penodol a gwneud copïau ohonynt. Mae'r dogfennau y bydd eu hangen arnoch yn cynnwys: tystysgrif marwolaeth, tystysgrif geni, tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil. Bydd angen i chi atodi copïau o'r dogfennau amrywiol hyn i ffurflenni profiantYn agor mewn ffenestr newydd, ac i gael mynediad at gyfrif banc, buddsoddiadau neu yswiriant bywyd y person sydd wedi marw.
Cyn i chi wneud cais am brofiant, bydd angen i chi brisio'r ystâd gan y bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth am faint yw ei gwerth. I wneud hyn, bydd angen i chi ddarganfod gwerth unrhyw asedau, gwerth unrhyw roddion a roddodd yr unigolyn yn y 7 mlynedd cyn iddynt farw, faint o ddyled sydd ganddynt, a faint fydd gwerth yr ystâd unwaith y bydd y dyledion yn cael eu talu. Bydd angen i chi hefyd ddarganfod a oedd unrhyw asedau yn eiddo ar y cyd.
Gallwch gael mynediad at asedau ariannol y person sydd wedi marw (fel cyfrifon banc) drwy ofyn i fanciau a sefydliadau eraill ryddhau'r asedau i chi. Dylech agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer yr ystâd, er mwyn osgoi iddo ddrysu â'ch cyfrifon banc personol eich hun. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i chi weld gwerth yr asedau ariannol a gallai helpu i osgoi unrhyw anghytundebau. Ar ôl i chi gael gwerth yr ystâd, bydd angen i chi hefyd gyfrifo'r Dreth Etifeddiant sy'n ddyledus a gallwch ddysgu mwy am sut i gyfrifo hyn drwy ymweld â'n canllaw ar HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.
Ar ôl i chi brisio'r ystâd, bydd angen i chi lenwi ychydig o ffurflenni a'i hanfon at swyddfa'r Gofrestrfa Profiant agosaf. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio hefyd. Mae faint y mae angen i chi ei dalu a pha ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Unwaith y byddant wedi derbyn eich cais, bydd y swyddfa brofiant yn cysylltu â chi i esbonio'r camau nesaf.
Pan fydd gennych brofiant, gallwch gysylltu â'r sefydliadau sy'n cadw asedau'r person sydd wedi marw, fel y banc neu'r darparwr pensiwn preifat. Byddant yn gofyn am gopi o'r llythyr profiant neu gadarnhad cyn iddynt ryddhau'r asedau. Yna gallwch dalu'r dyledion a'r trethi amrywiol sy'n ddyledus.
Ar ôl i chi dalu'r dyledion a'r trethi, mae'n rhaid i chi ddosbarthu'r ystâd yn unol â'r rheolau diewyllysedd. Am fwy o fanylion am sut i ddosbarthu'r ystâd, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd.
Am fwy o wybodaeth am sut i ysgrifennu ewyllys a helpu'ch anwyliaid i ddeall eich dymuniadau ar ôl eich marwolaeth, ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: