Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Strategol
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
    • Canolbwynt llwybrau dysgu
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Byddai chwarter y bobl yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad am gael eu sgamio wrth i MaPS annog pobl i fod yn wyliadwrus ar Ddydd Gwener y Gwario Gwirion

Published on:

23 Tachwedd 2026

Byddai bron i chwarter (24%) o oedolion y DU yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad ag anwyliaid am fod yn ddioddefwr sgam, yn ôl ymchwil a ryddhawyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) cyn Dydd Gwener y Gwario Gwirion.

  • Mae ymchwil newydd gan MaPS yn dangos nifer pryderus o oedolion sy'n anghyfforddus yn siarad ag anwyliaid am fod yn ddioddefwyr sgam.
  • Cyn Dydd Gwener y Gwario Gwirion, mae MaPS yn annog pobl i siopa'n ddiogel a bod yn wyliadwrus rhag sgamiau.
  • Collodd William, 51 oed o Lundain, dros £2,000 i sgamwyr ar ôl gwneud cais am swydd ffug: "Alla i ddim cael fy arian yn ôl, sy'n straen mawr; rwy'n teimlo'n wirion, ond gallai hyn fod wedi digwydd i unrhyw un."
  • Anogir dioddefwyr i godi llais a cheisio cefnogaeth.

Mae MaPS yn annog siopwyr i aros yn wyliadwrus ar Ddydd Gwener y Gwario Gwirion hwn, gwirio bod y cynigion yn ddilys a bod yn wyliadwrus rhag negeseuon dosbarthu ffug. Mae hefyd yn annog unrhyw un sydd wedi cael ei sgamio i godi llais a cheisio cymorth, yn hytrach na theimlo embaras neu gywilydd.

Collodd William, 51 oed o Lundain, dros £2,000 ar ôl iddo wneud cais am gyfle swydd ffug drwy wneud archebion ar-lein i gwmni mordaith. 

"Roedd angen arian arna i felly lawrlwythais yr ap, a oedd yn edrych yn ddilys. Roedd yna hefyd sgwrs grŵp yn llawn postiadau gan bobl oedd yn gweithio yno - sylweddolais yn ddiweddarach fod hyn i gyd yn ffug. Gofynnwyd imi sefydlu cyfrif banc a throsglwyddo arian iddo. Alla i ddim cael fy arian yn ôl, sy'n straen mawr; rwy'n teimlo'n wirion, ond gallai hyn fod wedi digwydd i unrhyw un.

"Rwy'n gobeithio, drwy ddweud fy stori, y gallaf atal pobl eraill rhag syrthio'n ddioddefwyr i'r sgamwyr digywilydd hyn."

Mae ymchwil gan MaPS hefyd yn dangos bod bron i hanner oedolion (48%) wedi cuddio neu leihau cost pryniannau, gyda siopa ar-lein, eitemau ffasiwn a rhoddion y mathau mwyaf cyffredin o wariant y mae pobl yn eu cuddio oddi wrth eu partner neu eu teulu.

Dywedodd Charlotte Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Arweiniad a Strategaeth Diogelu Cwsmeriaid yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

"Mae sgamwyr yn aml yn manteisio ar gyfnodau siopa prysur fel Dydd Gwener y Gwario Gwirion. Os ydych chi'n bwriadu siopa am gynigion ar-lein, byddwch yn wyliadwrus o  sgamiau. 

"Boed yn siopa gan fanwerthwyr dibynadwy neu'n cadw llygad am negeseuon dosbarthu ffug, gall camau bach eich helpu i ddiogelu eich hun rhag sgamiau a chadw'n ddiogel. 

"Os ydych chi'n credu eich bod wedi colli arian i sgam, does dim angen teimlo embaras na chywilydd.

"Y cam cyntaf yw rhoi gwybod am y sgam. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo neu gysylltu â HelpwrArian am gymorth am ddim a chyfrinachol."

Gyda chynigion Dydd Gwener y Gwario Gwirion yn temtio siopwyr i wario, mae MaPS yn rhannu pum cam syml i helpu pobl i adnabod sgamiau posibl, gwirio a yw bargen cystal ag y mae'n ymddangos, a chadw eu gwariant o dan reolaeth:

  1. Gosodwch gyllideb cyn i chi ddechrau chwilio. Cyn edrych ar y cynigion, cyfrifwch beth allwch ei fforddio'n gyfforddus ar ôl talu'r hanfodion megis taliadau rhent neu forgais, biliau bwyd ac ynni. Defnyddiwch gynlluniwr cyllidebYn agor mewn ffenestr newydd HelpwrArian i helpu i osod terfyn gwariant sy'n gweithio i chi.
  2. Gwiriwch a yw bargen yn arbed arian i chi mewn gwirionedd. Nid yw gostyngiad canrannol mawr yn golygu'n awtomatig eich bod yn cael y pris gorau. Cyn prynu, cymharwch yr un eitem gyda manwerthwyr eraill ac, lle bo modd, gwiriwch ei hanes prisiauYn agor mewn ffenestr newydd.
  3. Byddwch yn wyliadwrus o gynigion sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Gall twyllwyr greu copïau argyhoeddiadol o wefannau siopa dilys. Os nad ydych yn siŵr am ddolen, peidiwch â'i defnyddio. Dewch o hyd i'r manwerthwr yn annibynnol, gwiriwch y cyfeiriad gwe yn ofalus ac edrychwch ar adolygiadau dibynadwy, manylion cyswllt a gwybodaeth am ddychweliadau cyn talu.
  4. Gwyliwch am negeseuon dosbarthu ffug. Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun neu e-byst annisgwyl, hyd yn oed os ydych yn disgwyl parsel neu ad-daliad. Yn lle hynny, gwiriwch eich archeb yn uniongyrchol drwy wefan neu ap swyddogol y manwerthwr neu'r cwmni dosbarthu.
  5. Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio credyd. Cyn benthyca, meddyliwch a fyddwch yn dal i allu fforddio'r ad-daliadau ar ôl y Nadolig ac yn y flwyddyn newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall unrhyw ffioedd, taliadau llog neu ddyddiadau ad-dalu cyn ymrwymo.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgam:

  • cysylltwch â'ch banc neu gwmni cardiau credyd – efallai y byddant yn gallu atal y taliad neu rwystro ymdrechion yn y dyfodol i gael mynediad at eich arian
  • yn dibynnu ar sut y gwnaethoch dalu, efallai y byddwch yn gallu cael eich arian yn ôl drwy hawliad Adran 75, ad-daliad neu eich darparwr taliadau. Am ragor am hyn ewch i HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • gofynnwch a all eich banc neu gwmni cardiau credyd analluogi eich cerdyn
  • rhoi gwybod am y sgam i Report Fraud ar 0300 123 2040, neu ddefnyddio'r teclyn rhoi gwybod ar-lein Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd. Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Police Scotland ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 800 9060.

Ewch i HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newyddam fwy ar sut i siopa'n ddiogel ar Ddydd Gwener y Gwario Gwirion hwn. Mae HelpwrArian hefyd yn cynnig arweiniad ar fenthyca, credyd a dyled i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i Olygyddion

  • Cynhaliwyd yr ymchwil gan YouGov a chynhaliwyd rhwng 24-29 Medi 2026. Cynhaliwyd yr ymchwil ar-lein, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ateb yn onest am gyllid personol. 
  • Cynhaliwyd yr arolwg llawn hwn ymhlith sampl o 2,134 o oedolion yn y DU (18+) ac mae'n cynnwys hwb yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau sampl gynrychioliadol gyda digon o gyfweliadau i adrodd canfyddiadau ar gyfer pob cenedl. 
  • Mae'r canlyniadau wedi'u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth oedolion y DU o ran oedran, rhyw, rhanbarth, ethnigrwydd a gradd gymdeithasol.
Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Pob datganiad i'r wasg Sgamiau HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.