Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Strategol
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
    • Canolbwynt llwybrau dysgu
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Disgwylir i'r dangosfwrdd pensiynau cyntaf gael ei lansio yn haf 2027

Published on:

19 Tachwedd 2026

Mae'r Gweinidog dros Bensiynau wedi cyhoeddi y disgwylir bellach i Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian ddod ar gael i'r cyhoedd yn haf 2027.

  • Cyhoeddodd y Gweinidog dros Bensiynau y disgwylir i Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian gael ei lansio i'r cyhoedd yn haf 2027.
  • Mae mwy na 2,400 o gynlluniau bellach wedi'u cysylltu, gan gwmpasu dros 75 miliwn o gofnodion pensiwn – a fydd yn galluogi pobl i weld eu pensiynau mewn un lle am y tro cyntaf.
  • Mae ymchwil gymdeithasol a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dangos bod defnyddwyr yn fodlon ac yn gadarnhaol ar ôl defnyddio dangosfwrdd HelpwrArian.

Wrth siarad mewn digwyddiad neuadd tref a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) ar 19 Tachwedd 2026, dywedodd Torsten Bell AS wrth gynrychiolwyr y diwydiant fod llai na blwyddyn bellach i fynd cyn lansio'r dangosfwrdd cyntaf. Ailadroddodd hefyd ymrwymiad y Llywodraeth i roi rhybudd o chwe mis i'r diwydiant o’r dyddiad bydd y dangosfwrdd yn cael ei lansio ir cyhoedd.

Yn y digwyddiad, manteisiodd Prif Swyddog Gweithredol MaPS, Oliver Morley, ar y cyfle i ddiolch i'r diwydiant am eu hymdrechion i gysylltu darparwyr pensiwn a chynlluniau â'r ecosystem y dangosfwrdd, a’r dyddiad cau ar gyfer hynny oedd 31 Hydref 2026. 

Mae mwy na 2,400 o gynlluniau a darparwyr bellach wedi'u cysylltu â seilwaith y dangosfwrdd pensiynau, gan gwmpasu dros 75 miliwn o gofnodion, yn ogystal â miliynau o gofnodion Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd hyn yn galluogi pobl, am y tro cyntaf, i weld eu pensiynau mewn un lle, gan eu helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ymddeoliad a'u lles ariannol. 

Daeth y neuadd dref ag amrywiaeth o ffigyrau ar draws y diwydiant, y llywodraeth a'r rheoleiddwyr ynghyd i drafod y diweddariadau diweddaraf ar ddangosfyrddau pensiynau. Dangoswyd y mewnwelediadau diweddaraf o brofion defnyddwyr i'r mynychwyr, sydd ar hyn o bryd yng Ngham 2. Mae'r profion yn parhau i gynyddu nifer y defnyddwyr yn raddol dros amser, gan ganiatáu ailadrodd a mireinio dangosfwrdd HelpwrArian.

Yn ddiweddar mae MaPS wedi comisiynu ymchwil cymdeithasol i sut mae defnyddwyr yn ymgysylltu â dangosfyrddau. Cyflwynwyd yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Ipsos yn y neuadd dref ac mae'n tynnu sylw at yr ymateb hynod gadarnhaol gan ddefnyddwyr. Roedd tri chwarter y defnyddwyr yn fodlon â'u profiad cyffredinol, a byddai mwy nag 8 o bob 10 yn defnyddio'r dangosfwrdd eto.

Dywedodd y Gweinidog dros Bensiynau, Torsten Bell AS:

"Mae Dangosfwrdd Pensiynau ar y trywydd iawn i drawsnewid sut mae pobl yn deall eu pensiynau. Bydd gallu gweld eich pensiynau mewn un lle i filiynau o gynilwyr, yn rhoi rhywbeth y mae gormod wedi'i golli am ormod o amser: darlun clir o'u cyllid sy'n eu helpu i gynllunio ymlaen llaw yn hyderus.

 "Diolch i'r gwaith caled sydd wedi ei wneud ar draws y diwydiant, gallwn nawr edrych ymlaen at lansio. Y tu ôl i bob pensiwn mae rhywun sy'n meddwl am eu dyfodol, ac rydym am iddynt deimlo'n hyderus bod eu cronfeydd yn hawdd eu canfod, yn ddiogel ac yn wirioneddol weithio i roi incwm iddynt mewn ymddeoliad."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Oliver Morley:

"Mae'r cerrig milltir yr ydym bellach wedi'u cyrraedd gyda dangosfyrddau pensiynau yn dyst i'r ymroddiad a ddangosir ar draws y diwydiant, y llywodraeth a'r rheoleiddwyr. Mae cyflwyno dangosfyrddau yn bartneriaeth, ac mae ein digwyddiad neuadd dref yn dathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni.

"Rydym bellach yn adeiladu momentwm tuag at lansio Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian yn Haf 2027. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu pobl i ddeall a chysylltu â'u pensiynau yn well. 

"Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd, sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wybodaeth bensiynau o ansawdd uchel ac ymdrechu i ddarparu'r profiad defnyddiwr gorau posibl, byddwn yn darparu teclyn sy'n helpu pobl i deimlo'n fwy gwybodus ac mewn rheolaeth dros gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Goruchwylio'r Farchnad y Rheoleiddiwr Pensiynau, Ben Gunnee:

"Mae cael miliynau o gofnodion aelodau wedi'u cysylltu â dangosfyrddau pensiynau yn gam arwyddocaol tuag at aelodau yn gallu dod o hyd i'w gwybodaeth am bensiynau mewn un lle. Ond nid dyma ddiwedd y daith.

"Wrth inni edrych ymlaen at lansio, dylai cynlluniau gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y wybodaeth y mae aelodau'n ei weld yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol, a bod yn barod i gefnogi'r rhai sy'n ymgysylltu â nhw, fel y gall aelodau elwa o’r dangosfyrddau."

Mae MaPS yn gwahodd pobl i brofi Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd a helpu i lunio'r gwasanaeth cyn ei lansiad cyhoeddus.

Mae HelpwrArian hefyd yn cynnig cyngor a theclynnau pensiynau diduedd am ddim, gan gynnwys ei gyfrifiannell pensiynauYn agor mewn ffenestr newydd. Gall hyn amcangyfrif cyfanswm eich incwm ymddeoliad, ei gymharu â'r hyn y gallai fod ei angen arnoch yn seiliedig ar eich incwm presennol, a dangos sut y gallai hyn newid os byddwch yn talu mwy.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i Olygyddion

  • Ymhlith y siaradwyr yn nigwyddiad y neuadd dref roedd:
    • Torsten Bell AS, Gweinidog dros Bensiynau
    • Oliver Morley, Prif Swyddog Gweithredol MaPS
    • Iain Patterson, Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau
    • Chris Curry, Pennaeth y Diwydiant ar gyfer y Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau
    • Lucy Stone, Arweinydd Dangosfyrddau Pensiynau y Rheoleiddiwr Pensiynau
    • Caroline Donellan, Arbenigwr Technegol – Polisi Pensiynau yn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
  • Mae'r adroddiad ymchwil cymdeithasol ar gael ar wefan y Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau.
  • Bydd MaPS yn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd diweddaraf ar ddangosfyrddau pensiynau yn yr wythnosau nesaf.
Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Dangosfwrdd pensiynau HelpwrArian Pob datganiad i'r wasg

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.