Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Strategol
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
    • Canolbwynt llwybrau dysgu
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Cyllid o £3.5m i helpu goroeswyr cam-drin economaidd i adennill annibyniaeth ariannol

Published on:

25 Tachwedd 2026

Mae cyllid newydd o £3.5 miliwn wedi'i gyhoeddi gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) i fynd i'r afael â'r pla o gam-drin economaidd a helpu dioddefwyr-oroeswyr i ailadeiladu eu bywydau.

  • Cyllid newydd gan MaPS i helpu dioddefwyr-oroeswyr i ailadeiladu eu bywydau.
  • Bydd arian yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at gyngor ar ddyledion a gwella eu hincwm.
  • Mae hyn yn amserol gan fod ymchwil newydd yn dangos bod 14% o boblogaeth y DU wedi profi cam-drin economaidd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Bydd y cyllid ar gyfer Money Advice Plus (MAP) a'r sector dyledion ehangach yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at gyngor a chymorth ar ddyledion. Mae hyn iddynt ddelio â dyledion nad ydynt efallai wedi'u dewis, yn ei ddeall a herio'r hyn sy'n ddyledus ganddynt, gwella eu hincwm a'u mynediad at wasanaethau hanfodol lle bo'n bosibl, ac ailadeiladu rheolaeth ariannol ac annibyniaeth.

Daw'r cyhoeddiad cyllid hwn wrth i ffigyrau newydd MaPS ddangos bod dros 7 miliwn o oedolion yn y DU wedi profi cam-drin economaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r ffigyrau o arolwg blynyddol MaPS, GolwgArian, yn dangos bod 1 o bob 7 o bobl (14%) wedi'u heffeithio gan gam-drin economaidd, gyda rhieni sengl bron dair gwaith yn fwy tebygol o roi gwybod amdano (41%) a thraean o oedolion ifanc rhwng 18 a 34 oed (33%) yn dioddef ohono yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae'r ymchwil hefyd yn datgelu cysylltiad cryf rhwng cam-drin economaidd a dyled, gyda dros 60% o'r dioddefwyr-oroeswyr angen cyngor ar ddyledion a'r un gyfran (60%) ar ei hôl hi gydag o leiaf un bil neu ymrwymiad ariannol.

Mae tystiolaeth gan wasanaethau a ariennir gan MaPS yn dangos y gall cael cyngor ar ddyledion leihau pryder ariannol, gwella lles a helpu pobl i deimlo'n fwy abl i reoli eu cyllid.

Dywedodd Zoe Burns-Shore, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

"Mae cam-drin economaidd yn annerbyniol ac ni ddylai neb gael eu dyfodol ariannol wedi’i bennu ganddo. 

"Ond mae ein hymchwil yn dangos bod miliynau o dioddefwyr-oroeswyr yn cael eu gadael yn delio â dyled, hanes credyd wedi'i ddifrodi, a rhwystrau sylweddol i adferiad ariannol.

"Gall cam-drin economaidd gael effaith ddinistriol ar les ariannol pobl a diogelwch ariannol hirdymor, ac rydym yn ymdrechu i helpu dioddefwyr-oroeswyr i gael cymorth mwy priodol.

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r sector dyledion ehangach i ddod â chymorth mwy hygyrch ac effeithiol i'r rhai sydd ei angen fwyaf. "

Dywedodd Taira Kayani, Prif Weithredwr Money Advice Plus:

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i wella'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin economaidd. Mae'n gyffrous meddwl am y gwahaniaeth y bydd ein gwaith ar y cyd yn gallu ei wneud i fywydau cymaint o bobl.

"Trwy ein gwaith yn y Centre of Excellence for Debt and Economic Abuse Services a'r llinell gymorth genedlaethol, rydym yn gwbl ymwybodol o'r effaith y gall rheolaeth ariannol a chamfanteisio ei chael ar fywydau dioddefwyr-oroeswyr, sydd nid yn unig ar eu cyllid ond ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

"Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a'n harbenigedd i helpu i lunio gwelliannau ymarferol i wasanaethau cyngor ar ddyledion, a fydd yn ei dro yn helpu i lywio ymateb gwell a mwy priodol i ddioddefwyr-oroeswyr pan fyddant yn estyn allan am gymorth."

Dywedodd tua un o bob pump o ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin economaidd fod camdriniwr wedi niweidio eu sgôr credyd, ac roedd y rhai a oedd wedi profi cam-drin economaidd yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn ar gyfer hanfodion na'r rhai nad oeddent wedi gwneud hynny (33% o'i gymharu â 14%).

Mae'r cyllid o £3.5m wedi'i ddyrannu gan Drysorlys EF, fel rhan o'r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a bydd yn cael ei gyflwyno dros dair blynedd. Bydd hefyd yn helpu dioddefwyr-oroeswyr i fynd i'r afael â dyled dan orfodaeth yn ddiogel a lleihau'r risg o reolaeth ariannol barhaus.

Ynghyd â'r cyllid, mae MaPS heddiw wedi cyhoeddi eu trydydd Adroddiad blynyddol ‘Debt Advice Impact’, sy'n tynnu sylw at werth cyngor ar ddyledion am ddim a diduedd ledled Lloegr. 

Mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos bod dros 800,000 o bobl wedi cael cymorth gyda chyngor ar ddyledion a ariannwyd gan MaPS rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gyda thri chwarter (75%) yn dweud bod hyn wedi helpu i ddatrys eu problemau ac 85% yn dweud y byddent yn argymell y gwasanaeth i eraill mewn sefyllfa debyg.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i'r Golygyddion

  • Ynglŷn â MoneyView 2026 yw arolwg blynyddol a chynrychioliadol cenedlaethol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau o dros 12,000 o oedolion sy'n byw yn y DU. 
  • Mae'r arolwg yn ymdrin â chynhwysiant ariannol, biliau, credyd a'r angen am gyngor ar ddyledion, cynilion a gwydnwch ariannol, pensiynau ac ymddeoliad, a hyder a boddhad ariannol. Mae'n cynnig cipolwg unigryw ar sefyllfa ariannol y boblogaeth a'u teimladau presennol tuag at eu cyllid.
  • Gofynnwyd y cwestiynau am gam-drin economaidd ar GolwgArian i dros 10,000 o oedolion sy'n byw yn y DU ac a atebodd yr arolwg ar-lein. 
Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig

Ynglŷn â Money Advice Plus

Mae Money Advice PlusYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cyngor am ddim a chyfrinachol ar arian a dyledion, i helpu pobl i reoli eu harian. P'un a oes angen arweiniad arbenigol arnoch, os ydych am gyfeirio cleient, neu os ydych yn chwilio am gymorth, maent yno i helpu.

Mae eu tîm ymroddedig o gynghorwyr profiadol ac arbenigwyr cymorth yn gweithio i ddeall eich sefyllfa unigryw, gan ddarparu cyngor wedi'i deilwra i'ch helpu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol a thawelwch meddwl.

Maent yn rhedeg y llinell gymorth 'Centre of Excellence for Debt and Economic Abuse Services' (CEDEAS) ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig.

Nol i’r brig
Dyled Cynghorwyr Dyled Pob datganiad i'r wasg

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.