Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Strategol
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
    • Canolbwynt llwybrau dysgu
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Mae hanner pobl Prydain yn dweud nad ydynt yn deall pensiynau, ac mae llawer yn teimlo nad ydynt yn barod ar gyfer ymddeoliad

Published on:

03 Tachwedd 2026

Mae hanner pobl y DU yn mynd at gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad heb ddigon o wybodaeth a chynllun clir, gan fod hanner (50%) yn dweud nad ydynt yn deall digon am bensiynau i wneud penderfyniadau am eu hymddeoliad.

  • Mae ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn datgelu nad yw bron hanner pobl Prydain (47%) yn barod ar gyfer ymddeoliad.
  • Cyhoeddwyd y data yn ystod Wythnos Siarad Arian, ac anogir pobl Prydain i gymryd camau bach i wella eu lles ariannol gan fod ‘Mae'r Cyfan Yn Cyfrif’.
  • Gall pobl 50 oed neu hŷn sydd â phensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim.

Mae'r ymchwil newydd syfrdanol gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), a gyhoeddwyd yn ystod, Wythnos Siarad Arian (2-6 Tachwedd), prif ymgyrch flynyddol y sefydliad ledled y DU, yn datgelu darlun pryderus am barodrwydd y genedl yn ariannol ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â pheidio â deall digon am bensiynau, mae canfyddiadau arolwg blynyddol MoneyView MaPS o dros 12,000 o oedolion yn y DU yn dangos nad oes gan bron i hanner (47%) gynllun ar gyfer eu harian yn ystod eu hymddeoliad, tra bod 45% yn dweud nad ydynt yn cynilo'n rheolaidd.

Y newyddion da, fodd bynnag, yw y gall hyd yn oed camau syml wneud gwahaniaeth mawr. Gyda'r thema eleni, 'Mae’r Cyfan yn Cyfrif', mae MaPS yn annog pobl i gymryd un cam bach tuag at ymddeoliad gwell — o wirio eu cronfa bensiwn neu adolygu eu cyfraniadau i gael arweiniad am ddim gan arbenigwr.

Dywed Anna Sharkey, Pennaeth Polisi a Chynigion yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae pobl ledled y DU yn gweithio mor galed am gymaint o amser, ac maent yn haeddu mwynhau eu hymddeoliad. Ond er mwyn gwireddu hynny a byw'n gyfforddus pan fyddwch yn gorffen gweithio, mae angen i chi edrych ar eich pensiwn.

“Rydym yn gwybod y gall pensiynau fod yn ddryslyd, ond nid oes rhaid i neb geisio eu deall ar eu pen eu hunain. 

“Yn ystod Wythnos Siarad Arian eleni, hoffwn weld mwy o bobl ledled y DU yn cymryd camau ynghylch eu pensiynau. P'un a oes gennych gwestiwn syml neu fater mwy cymhleth, gall ein harbenigwyr roi arweiniad am ddim a diduedd i chi fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich pensiwn.

“Peidiwch â gadael eich dyfodol ariannol heb gynllun clir. Siaradwch â HelpwrArian a gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau, gan y bydd gennych fwy o amser i gynllunio, cynilo a theimlo'n barod ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.”

Er bod ffigurau diweddaraf MoneyView yn tynnu sylw at heriau ariannol sylweddol, mae rhesymau dros fod yn optimistaidd hefyd. Mae anfodlonrwydd ariannol wedi gostwng o 69% i 63% o gymharu â'r llynedd, mae llai o bobl yn teimlo'n ddihyder ynghylch rheoli eu harian (i lawr o 46% i 41%) ac mae cyfran y bobl â lles ariannol isel wedi gostwng o 27% i 24%.

Her arall yw nad yw llawer o bobl yn gwybod cyfanswm gwerth y cronfeydd pensiwn y maent wedi'u cronni drwy gydol eu bywydau gwaith. Bydd Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian, y disgwylir iddo gael ei lansio ym mlwyddyn ariannol 2027/28, yn dod â'r wybodaeth hon ynghyd mewn un lle, gan ei gwneud yn haws i bobl ddeall eu cynilion a chynllunio ar gyfer ymddeoliad.

Er y bydd y dangosfwrdd yn helpu pobl yn y dyfodol, mae cymorth eisoes ar gael drwy HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd a Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd, sy'n cynnig arweiniad am ddim a diduedd ar bopeth o gyfuno cronfeydd pensiwn i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd arian o bensiwn.

Mae HelpwrArian, gwasanaeth arweiniad ar arian a phensiynau MaPS i ddefnyddwyr, hefyd wedi lansio ei declyn Cael arweiniad ar ymddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer unrhyw un sy'n ansicr beth i'w wneud â'u pensiynau, neu hyd yn oed ble i ddechrau. Mae'n creu cynllun gweithredu personol ac yn cyfeirio defnyddwyr at arweiniad a theclynnau sy'n addas i'w hamgylchiadau.

I gael arweiniad ar bensiynau am ddim neu drefnu apwyntiad Pension Wise, ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i Olygyddion

  • Os ydych dros 50 oed a bod gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gallwch gael apwyntiad Pension Wise am ddim. Mae'r sesiwn un i un hon yn rhoi gwybodaeth a chymorth i chi ynghylch cymryd eich pensiynau ac osgoi sgamiau. 
  • I'r rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer Pension Wise, neu sydd angen help gyda materion ariannol eraill, mae HelpwrArian yn cynnig amrywiaeth o gymorth am ddim. Mae hyn yn cynnwys declynnau a chanllawiau ar-lein, yn ogystal â mynediad at arbenigwyr hyfforddedig dros y ffôn, drwy sgwrs ar y we neu drwy ffurflen ar-lein.
Nol i’r brig

Am MoneyView

  • MoneyView 2026 yw arolwg blynyddol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau o dros 12,000 o oedolion sy'n byw yn y DU, sy'n gynrychioliadol o'r boblogaeth genedlaethol.
  • Roedd hyn yn cynnwys o leiaf 1,000 o bobl ym mhob un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 
  • Mae'r arolwg yn ymdrin â chynhwysiant ariannol, biliau, credyd a'r angen am gyngor ar ddyledion, cynilion a'r gallu i wrthsefyll anawsterau ariannol, pensiynau ac ymddeoliad, a hyder a boddhad ariannol. Mae'n cynnig cipolwg unigryw ar sefyllfa ariannol y boblogaeth a sut maent yn teimlo am eu harian ar hyn o bryd.
  • Mae'r ystadegau pensiynau yn seiliedig ar y boblogaeth o oedran gweithio.
Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Pob datganiad i'r wasg Pension Wise Pensiynau Wythnos Siarad Arian HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.