Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn lansio canllaw newydd i helpu miliynau o bensiynwyr mewn ymddeoliad

Published on:

15 Mehefin 2026

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi lansio canllaw pensiynau sydd newydd ei ailddylunio drwy HelpwrArian, gyda'r nod o helpu miliynau o bobl sy'n agosáu at ymddeoliad i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol.

  • Canllaw pensiynau wedi'i ailgynllunio i helpu pobl i ddeall eu hopsiynau ymddeoliad yn well.
  • Ailddyluniad cyntaf mewn dros 10 mlynedd, wedi'i lywio gan adborth cwsmeriaid a'i ddatblygu mewn cydweithrediad ag Aegon a Plain Numbers.
  • Mae darparwyr pensiwn yn anfon y canllaw at filiynau o ddeiliaid polisi pensiwn sy'n troi'n 50 oed fel rhan o becyn 'deffro'.

Mae'r cyhoeddiad newydd, 'Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam', Yn agor mewn ffenestr newyddyn disodli 'Eich pensiwn: eich dewisiadau', sydd wedi bod yn ffynhonnell allweddol o arweiniad ers 2015.

Wedi'i gyhoeddi gan ddarparwyr pensiwn i ddeiliaid polisi pensiwn sy'n agosáu at 50 oed fel rhan o becyn 'deffro', mae'r canllaw yn helpu i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y DU wrth iddynt ddechrau meddwl am sut a phryd y maent yn cael mynediad at eu cynilion ymddeoliad.

Mae'r canllaw wedi'i ddiweddaru wedi'i leihau gan tua hanner a'i ailysgrifennu i'w gwneud yn gliriach ac yn haws i'w lywio. Mae'r canllaw newydd yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam i helpu pobl i ddeall eu hopsiynau ymddeoliad, ystyried pa gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd ac eu cyfeirio at ffynonellau dibynadwy pellach o gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth.

Y cyhoeddiad hefyd yw'r darn cyntaf o gynnwys MaPS i gyflawni ardystiad Plain NumbersYn agor mewn ffenestr newydd, gan gydnabod ei ddefnydd o dechnegau profedig i gyfathrebu rhifau a gwybodaeth gymhleth mewn ffyrdd sy'n haws i bobl eu deall a gweithredu arnynt.

Mae ailddylunio'r canllaw pensiynau yn adlewyrchu ymrwymiad MaPS i sicrhau bod ei wasanaethau'n hygyrch i bawb, gan gynnwys y rhai a allai ei chael hi’n anodd ymgysylltu â gwybodaeth ariannol.

Meddai Sarah Hunter, Golygydd Digidol Arweiniol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

"Mae ein canllaw cam wrth gam byrrach, cliriach yn golygu y gall pobl sy'n troi'n 50 oed ddeall eu dewisiadau yn haws i wneud y gorau o'u dewisiadau incwm pensiwn.

"Mae cyflwyno niferoedd yn y ffordd gliriaf bosibl yn eu helpu i ddeall eu dewisiadau, gweithredu a pharatoi ar gyfer ymddeoliad yn hyderus."

Meddai Mike Ellicock, Prif Weithredwr a Sylfaenydd Plain Numbers:

"Mae miliynau o bobl sy'n troi'n 50 oed yn derbyn y canllaw hwn ar adeg pan allai'r penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud ddiffinio eu dyfodol ariannol.

"Nid yw cael y niferoedd yn iawn yn rywbeth neis i’w gael yn unig - mae'n bwysig. Mae'r Ardystiad Plain Numbers yn adlewyrchu'r ymrwymiad gwirioneddol mae MaPS wedi rhoi i hyn."

Datblygwyd y prosiect trwy gydweithrediad agos â Plain NumbersYn agor mewn ffenestr newydd ac AegonYn agor mewn ffenestr newydd. Fel platfform buddsoddi mwyaf y DU, rhannodd Aegon ymchwil cwsmeriaid a nododd ble roedd y canllaw blaenorol yn methu a chefnogi profion pellach i sicrhau bod y fersiwn newydd yn diwallu anghenion deiliaid polisi pensiwn.

Mae 'Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam' ar gael i' w lawrlwytho neu ei archebu am ddim ar wefan HelpwArianYn agor mewn ffenestr newydd.

– DIWEDD –

Nol i'r brig

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae'r canllaw pensiynau yn canolbwyntio ar bensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio (DC) ac fe'i dosbarthir gan ddarparwyr pensiwn fel rhan o becyn cyfathrebu 'deffro'.
  • Mae miliynau o ddeiliaid polisi pensiwn ledled y DU yn derbyn y canllaw o 50 oed a phob 5 mlynedd ar ôl hynny nes iddynt gael mynediad i'w pensiwn.
    Mae'r prosiect ailddylunio yn cael ei gynnwys fel astudiaeth achos yn yr Adroddiad Dealltwriaeth CwsmeriaidYn agor mewn ffenestr newydd diweddaraf Plain Numbers.
Nol i'r brig

Ynglŷn â HelpwrArian

  • HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd yw ein gwasanaeth sy'n wynebu defnyddwyr, sy'n cynnig arweiniad arian a phensiynau am ddim a diduedd sy'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth.
  • Mae'n dwyn ynghyd cefnogaeth a gwasanaethau tri chyn-ddarparwr canllawiau ariannol a gefnogir gan y llywodraeth: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, a Pension Wise.
  • Mae HelpwrArian yn cynnig arweiniad clir ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ac yn cyfeirio defnyddwyr at ffynonellau eraill o wybodaeth ddibynadwy, os oes angen mwy o gefnogaeth arnynt.  
Nol i'r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i'r brig
Pob datganiad i'r wasg Pensiynau HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.