Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Mae un o bob pum gyrrwr yn torri’n ôl ar eu defnydd gerbyd neu ar wariant cartref i dalu am danwydd

Published on:

08 Mehefin 2026

Mae bron i un o bob pum gyrrwr* gorfod torri’n ôl ar eu defnydd gerbyd neu ar wariant cartref i dalu am danwydd, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).

  • Mae ffigurau newydd yn tynnu sylw at effaith costau tanwydd cynyddol ar wariant cartref.
  • Mae HelpwrArian wedi lansio teclyn newydd sy’n ddiduedd heb hysbysebion i helpu pobl i ddod o hyd i’r tanwydd rhataf.
  • Mae Canfyddwr prisiau petrol yn defnyddio data diweddaraf y llywodraeth ac yn cwmpasu pob rhan o’r DU.

Gan fod prisiau tanwydd ar lefelau bron yn hanesyddol o uchel, mae arolwg newydd o fwy na 2,000 o oedolion yn dangos yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gyllid cartref.

Mae’r ffigurau’n datgelu bod 17% o yrwyr yn dweud eu bod yn gallu fforddio tanwydd, ond bod rhaid iddynt weithiau dorri’n ôl ar ddefnydd gerbyd neu wariant cartref i dalu amdano, tra bod 2% yn dweud nad yw’n fforddiadwy o gwbl iddynt.

O'r gyrwyr a arolygwyd, dywedodd tri o bob pump (60%) eu bod yn pryderu am gost tanwydd, ond roedd ychydig dros hanner (51%) yn gwybod pa orsaf betrol yn agos at eu cartref oedd yn cynnig y tanwydd rhataf.

Er mwyn helpu i gefnogi penderfyniadau mwy gwybodus, mae teclyn newydd diduedd heb hysbysebion i helpu gyrwyr i ddod o hyd i’r tanwydd rhataf yn eu hardal ac arbed arian wedi’i lansio gan HelpwrArian – y gwasanaeth arweiniad arian a phensiynau am ddim a diduedd, a weithredir gan MaPS.

Mae’r teclyn canfyddwr prisiau petrolYn agor mewn ffenestr newydd yn defnyddio data o wasanaeth canfyddwr tanwydd y llywodraeth ac yn cwmpasu pob un o bedair gwlad y DU. Yn ogystal â galluogi defnyddwyr i reoli eu costau tanwydd a dod o hyd i’r pris gorau yn y tymor byr, mae’n eu cyfeirio at arweiniad ariannol pellach drwy HelpwrArian, gan gynnwys teclynnau cyllidebu, awgrymiadau cynilo, a chymorth gyda budd-daliadau, gan gefnogi eu lles ariannol hirdymor.

Gall sefydliadau eraill hefyd ddefnyddio’r teclyn a’i arddangos ar eu gwefannau, gan helpu mwy o bobl i’w gyrchu’n rhwydd yn y mannau maent eisoes yn troi atynt am gymorth.

Meddai Anna Sharkey, Pennaeth Polisi a Chynigion Arian a Phensiynau yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Rydym yn gwybod nad anghyfleustra yn unig yw cost llenwi i lawer o bobl, mae'n effeithio ar benderfyniadau cartref bob dydd. 

“Mae ein teclyn canfyddwr prisiau petrol newydd wedi’i gynllunio i roi cymorth ymarferol a diduedd i bobl ar y pryd, tra hefyd yn eu cysylltu â chymorth ehangach ar gyllidebu, budd-daliadau a rheoli eu harian yn y tymor hir.” 

Mae’r teclyn, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn defnyddio data o wasanaeth Canfyddwr Tanwydd y llywodraeth, lle mae’n rhaid i orsafoedd petrol ddiweddaru’r data o fewn 30 munud i unrhyw newid mewn pris.

I ddefnyddio’r teclyn am ddim, i gael rhagor o arweiniad diduedd ar arian a phensiynau, neu i ddefnyddio’r cyfrifiannell cyflog newydd sy’n dangos beth fyddwch fel arfer yn ei ennill ar ôl treth, Yswiriant Gwladol a didyniadau eraill, ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.

– DIWEDD  –

Nol i'r brig

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 2111 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 30ain Ebrill – 6ed Mai 2026.  Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion y DU (18+ oed). 
  • *O’r bobl a gafodd eu cyfweld, mae 1370 yn talu am danwydd ar gyfer cerbyd petrol, diesel neu hybrid ac yn ei yrru o leiaf unwaith yr wythnos. Gelwir y rhain yn “gyrwyr” yn y datganiad hwn.
Nol i'r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i'r brig
HelpwrArian Costau byw Pob datganiad i'r wasg

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

[email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.