Published on:
02 Tachwedd 2026
Mae ymchwil newydd syfrdanol gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi datgelu bod tua un o bob tri (31%) oedolyn yn y DU wedi talu am danysgrifiad neu wasanaeth nad ydynt yn ei ddefnyddio mwyach.
Mae'r ffigurau, a gyhoeddwyd yn ystod Wythnos Siarad Arian (2–6 Tachwedd), prif ymgyrch flynyddol y sefydliad ledled y DU, yn tynnu sylw at effaith gudd tanysgrifiadau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyllid personol, yn ogystal â phwysigrwydd bod yn agored ac yn onest am arian.
Mae'r arolwg o fwy na 2,000 o oedolion yn y DU hefyd yn datgelu bod bron i hanner (48%) y bobl wedi cuddio eu gwariant neu wneud iddo ymddangos yn llai nag ydoedd i bartner neu aelod o'r teulu. O ran cuddio cost pryniannau, rhoddion ac anrhegion sydd ar frig y rhestr (40%), ac yna dillad ac eitemau ffasiwn (37%), a siopa ar-lein yn gyffredinol (31%).
Y newyddion da, fodd bynnag, yw y gall hyd yn oed camau syml wneud gwahaniaeth mawr. Gyda'r thema eleni, 'Mae'r Cyfan yn Cyfrif', mae MaPS yn annog pobl i gymryd camau bach, realistig i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian.
Gallai hyn olygu gwirio pensiwn, dechrau sgwrs am bryder ariannol gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddynt, neu ddefnyddio cynlluniwr cyllideb i gadw trefn ar eich treuliau bob mis.
Dywedodd Zoe Burns-Shore, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflenwi Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl ledled y DU o dan bwysau ariannol.
“Gall costau cynyddol, treuliau annisgwyl ac ansicrwydd economaidd ehangach wneud i reoli arian deimlo'n llethol, ond nid ydych ar eich pen eich hun a gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
“Boed yn llunio cyllideb, chwilio am gytundeb gwell ar eich biliau, neu ganslo'r tanysgrifiad hwnnw nad ydych yn ei ddefnyddio, mae'r cyfan yn cyfrif.
“Yn ystod yr Wythnos Siarad Arian hon, byddwn yn annog pawb i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at deimlo'n fwy hyderus a bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu dyfodol ariannol.”
Mae Carolyn Pearson, sy'n 61 oed, yn hunangyflogedig ac yn byw yn Leeds. Fe wnaeth hi droi at HelpwrArian, y gwasanaeth arweiniad arian a phensiynau am ddim a diduedd a weithredir gan MaPS, pan sylweddolodd ei bod yn mynd i ddyled bob mis:
"Yn y gorffennol byddwn yn edrych ar fy nghyfrif banc ar-lein, yn gosod nodau misol, ac yn creu taenlen i weld faint roedd angen i mi ei dalu i mi fy hun a faint y gallwn fforddio ei gynilo.
“Roedd traciwr cyllideb HelpwrArian yn mynd gam ymhellach oherwydd ei fod yn dangos yr holl gostau cudd fel yswiriant teithio, yswiriant tŷ, yswiriant car, treth car, prawf MOT y car, a thanysgrifiadau. Dangosodd i mi fy mod yn mynd i ddyled bob mis, ac felly roedd angen i mi dalu mwy o arian i mi fy hun.”
Defnyddiodd Carolyn HelpwrArian hefyd i wneud rhai newidiadau bach i'w helpu i gynilo:
"Cliciais ar wefan cymharu ynni ac aildrafod fy nhariff gydag Eon, a wnaeth gymryd £20 y mis oddi ar fy miliau nwy a thrydan. Mae'n debyg y byddaf yn arbed tua £500 y flwyddyn i gyd.
“Os gallaf ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r traciwr cyllideb, mae hynny'n wych — rwy'n credu ei fod yn declyn sy'n rhoi llawer mwy o reolaeth i bobl."
Gall camau o bob maint helpu i wella lles ariannol dros amser. I ddangos bod y cyfan yn cyfrif, mae MaPS wedi nodi pum cam syml y gall pobl eu gwneud heddiw i deimlo'n fwy hyderus a bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian:
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: