Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

'Hwn yw’r tymor i fod yn graff... gyda phum ffordd i arbed cyn y Nadolig

Published on:

16 Medi 2026

Mae'r cyfnod cyfri’r dyddiau cyn y Nadolig yma yn swyddogol, gyda dim ond 100 diwrnod tan y Nadolig. Mae Jon Styles, Arweinydd Cynilo yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig pum awgrym i helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y Nadolig a lleihau'r straen ar eu waled.

Ond er mai 25 Rhagfyr yw'r dyddiad y mae llawer o bobl yn canolbwyntio arno, nid dyna’r unig ddathliad  sydd ar y calendr.

Efallai y bydd teuluoedd ledled y DU hefyd yn cyllidebu ar gyfer hanner tymor mis Hydref, Calan Gaeaf, Diwali, Hanukkah ac achlysuron pwysig eraill, gyda chostau yn cronni rhwng nawr a 25 Rhagfyr.

Gyda chyllidebau cartrefi eisoes dan bwysau, gallai trefnu nawr helpu i osgoi cur pen ariannol pan fydd cyfnod y Nadolig ar ben.

1. Dechreuwch brynu anrhegion yn gynnar

Dylech osgoi'r rhuthr munud olaf drwy brynu anrhegion dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Gall lledaenu'r gost dros amser wneud gwariant yr ŵyl yn haws i’w reoli, eich helpu i gadw golwg agosach ar eich cyllideb ac osgoi prynu mewn panig wrth i ddydd Nadolig agosáu. 

Mae'r un peth yn wir os ydych chi'n dathlu Diwali, Hanukkah neu Calan Gaeaf. Gall prynu anrhegion, addurniadau, gwisgoedd neu ddanteithion fesul ychydig fod yn llawer haws na thalu am bopeth ar un tro.

Gall anrhegion wedi’u gwneud gartref hefyd fod yn ddewis ystyriol a chost isel yn lle anrhegion a brynwyd yn y siop, gan helpu i greu atgofion arbennig heb roi straen ar eich cyllideb.

Nol i’r brig

2. Manteisio ar fargeinion

Cadwch lygad am fargeinion Dydd Gwener y Gwario Gwirion ar-lein ac yn y siopau, hyrwyddiadau gan fanwerthwyr, codau disgownt a chyfleoedd arian yn ôl. Gall ychydig o gynllunio a chymharu prisiau fynd yn bell, gan arwain at arbedion sylweddol ar anrhegion, addurniadau a hanfodion yr ŵyl. 

Cyn prynu bargen, gwnewch yn siŵr ei bod cystal ag y mae’n ymddangos. Cymharwch brisiau ar draws gwahanol fanwerthwyr, edrychwch ar hanes prisiau'r eitem a byddwch yn wyliadwrus o ostyngiadau trawiadol "oedd" a "nawr", gan efallai nad y pris uwch yw'r pris mwyaf diweddar y gwerthwyd yr eitem.

P'un a ydych chi'n prynu gwisg newydd ar gyfer Diwali, cronni danteithion ac addurniadau ar gyfer Calan Gaeaf neu’n dechrau eich siopa Nadolig, gall chwilio am fargeinion nawr eich gadael â mwy o arian i'w wario mewn mannau eraill.

Nol i’r brig

3. Gwiriwch danysgrifiadau a biliau

Cyn i dymor yr ŵyl gyrraedd, adolygwch daliadau rheolaidd a chanslwch unrhyw danysgrifiadau nas defnyddiwyd. Gall ailgyfeirio'r arbedion hynny tuag at ddathliadau roi hwb ariannol defnyddiol i’ch cyllideb.

Gyda'r tywydd yn oeri a’r gwres ymlaen eto, mae nawr hefyd yn amser da i siopa o gwmpas am y bargeinion gorau ar filiau cartref. Mae prisiau ynni ar fin codi o fis Hydref, felly gallai fod yn werth gwirio a allai tariff sefydlog neu gytundeb gwell arbed arian i chi. Gallai cyfradd well ar eich band eang, yswiriant neu ynni eich gadael gyda mwy o arian yn eich poced am y misoedd i ddod.

Nol i’r brig

4. Siaradwch am arian gyda'ch ffrindiau a'ch teulu

Does neb eisiau pryderon arian i ddifetha tymor yr ŵyl.

P'un a yw'n cytuno ar derfynau gwariant ar gyfer anrhegion, awgrymu Siôn Corn Cyfrinachol neu sgwrsio am yr hyn y gall pawb ei fforddio'n realistig ar gyfer dathliadau diwylliannol a chyfarfodydd eraill, gall siarad yn agored â ffrindiau a theulu helpu i leihau pryderon ariannol.

Gall fod yn hawdd teimlo dan bwysau i wario mwy nag y gallwch ei fforddio yn ystod dathliadau, ond ni fydd eich ffrindiau a'ch teulu eisiau i chi fynd i ddyled er mwyn prynu anrhegion iddynt. Efallai y bydd talu am anrhegion ar gerdyn credyd neu ddefnyddio benthyciad tymor byr yn ymddangos fel ateb sydyn, ond gall benthyca fod yn gostus a gallai methu ad-daliadau niweidio'ch adroddiad credyd.

Os nad ydych chi'n siŵr sut i ddechrau'r sgwrs, mae gan HelpwrArian ganllawiau ymarferol i'ch helpu i siarad am arianYn agor mewn ffenestr newydd gyda'r bobl sy'n fwyaf pwysig, gan ei gwneud hi'n haws cynllunio dathliadau sy'n gweithio i bawb.

Nol i’r brig

5. Gwneud i'ch cynilion weithio'n galetach

O wisgoedd ac anrhegion Diwali i ddanteithion Calan Gaeaf, anrhegion a chynulliadau Hanukkah a chinio Nadolig, gall costau Nadolig gronni yn sydyn iawn. Os ydych chi'n rhoi arian o'r neilltu, gwnewch yn siŵr bod pob ceiniog yn gweithio i chi.

Gallai cadw cynilion mewn cyfrif sy'n talu ychydig neu ddim llog olygu colli arian ychwanegol. Gallai siopa o gwmpas am gyfrif cynilo gyda chyfradd llog gystadleuol helpu i roi hwb i'ch cronfa Nadolig. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus o gynlluniau cynilo heb eu rheoleiddio nad ydynt yn darparu'r un diogelwch â chyfrifon cynilo rheoledig.

Beth am roi cynnig ar her cynilo a rhoi swm penodol o'r neilltu bob wythnos rhwng nawr a'r Nadolig? Gall Cyfrifiannell Cynilo am ddim HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd eich helpu i weithio allan faint y bydd angen i chi ei gynilo i gyrraedd eich nod Nadolig, a gall ein teclyn Cymharu Cyfrifon BancYn agor mewn ffenestr newydd helpu i ddod o hyd i'r cyfrif iawn i chi.

Wrth i'r cyfnod cyfri’r dyddiau cyn yr ŵyl ddechrau, mae'r neges yn syml: dechreuwch yn gynnar, siopwch yn gall a rhowch un peth yn llai i’ch hun i boeni amdano pan fydd y dathliadau yn cyrraedd. Gall ychydig o baratoi nawr fynd yn bell tuag at eich helpu i fwynhau tymor yr ŵyl, beth bynnag a sut bynnag rydych chi'n dathlu.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â HelpwrArian

Mae HelpwrArian yn cynnig cymorth diduedd am ddim ar arian a phensiynau sy’n gyflym i’w ddod o hyd iddo, yn hawdd ei ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig arweiniad clir ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, ac mae hefyd yn cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau dibynadwy os oes angen rhagor o gymorth arnynt.

Lansiwyd HelpwrArian ym mis Mehefin 2021 fel gwasanaeth i ddefnyddwyr, er mwyn cynnig arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau.

Mae’n dwyn ynghyd gymorth a gwasanaethau tri o gyn-ddarparwyr arweiniad ariannol a gefnogwyd gan y llywodraeth: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Pob datganiad i'r wasg Cynilion HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.