Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Teclynnau ac ymchwil
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
    • Hwb tystiolaeth
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Nid oes gan ddau o bob pump o bobl dros 55 oed gynllun ymddeoliad wrth i MaPS lansio teclyn newydd Cael arweiniad ymddeoliad

Published on:

14 Medi 2026

Nid oes gan ddau o bob pump o bobl (41%) sy'n nesáu at ymddeoliad (55–65 oed) gynllun ariannol ar gyfer eu bywyd yn ddiweddarach, yn ôl ymchwil newydd MaPS syfrdanol.

  • Mae ymchwil MaPS yn dangos nad oes gan nifer brawychus o bobl gynllun ariannol ar gyfer eu bywyd yn ddiweddarach
  • Mae'r teclyn newydd Cael arweiniad ymddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd yn helpu'r rhai sy'n nesáu at ymddeoliad i sicrhau bod eu sefyllfa ariannol mewn trefn.
  • Mae Paul, 54 oed, yn annog pobl o'i oedran i ddechrau cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn gynnar.
  • Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiynau eleni, mae MaPS yn annog pobl 55 oed a hŷn i ddefnyddio'r teclyn ac edrych ar eu cyllidebau ymddeoliad.

Mae'r ffigurau newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn tynnu sylw at y nifer pryderus o bobl sydd heb gynllun ariannol ar gyfer eu bywyd yn ddiweddarach, ac mae'r sefydliad yn galw ar bobl 55 oed a hŷn i weithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr i gynllunio.

Er mwyn helpu pobl i gynllunio'n well ar gyfer eu hymddeoliad gyda mwy o hyder, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiynau eleni mae HelpwrArian, gwasanaeth arweiniad ar arian a phensiynau MaPS i ddefnyddwyr, wedi lansio teclyn newydd Cael arweiniad ymddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd.

Mae wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer pobl sy'n ystyried ymddeol ond nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Mae teclyn newydd HelpwrArian yn helpu pobl sy'n nesáu at ymddeoliad i greu cynllun gweithredu personol i'w ddilyn.

Mae'n gweithio drwy ofyn nifer bach o gwestiynau ac, o'r fan honno, mae HelpwrArian yn paru amgylchiadau unigryw'r unigolyn â'r arweiniad a'r teclynnau sydd fwyaf tebygol o fod yn ddefnyddiol.

Mae Paul, 54 oed o Essex, a fanteisiodd yn ddiweddar o gael apwyntiad Pension Wise Ar-lein, yn annog eraill i gael cymorth i gynllunio ar gyfer ymddeoliad.

Dywedodd:

“Rwyf wedi gweithio mewn swyddi gwahanol dros y blynyddoedd ac mae gennyf sawl cronfa bensiwn. Roeddwn am wybod a ddylwn eu cyfuno.

“Gwnaeth Pension Wise Ar-lein fy annog i gael rhagor o sgyrsiau ag ymgynghorydd ariannol a'm partner ynghylch sut yr hoffem dreulio ein hymddeoliad ac a fyddwn yn gallu ymddeol yn gynnar.

“Fy nghyngor i bobl o'm hoedran i yw dechrau cynllunio. Bydd teclyn fel Cael arweiniad ymddeoliad yn fy helpu'n fawr i gael darlun clir o'r ffordd o fyw y gallwn ei chael.”

Dywedodd Tim Sheppard, Rheolwr Polisi a Chynigion yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn hollbwysig; mae'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n fwy hyderus am eu dyfodol a'u bod wedi paratoi'n well ar gyfer eu bywyd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw cynifer o bobl yn gwybod ble i ddechrau.

“Mae teclyn newydd MaPS yn helpu i greu man cychwyn gyda chynllun gweithredu ar gyfer eich sefyllfa bersonol.

“Mae pobl yn gweithio mor galed drwy gydol eu hoes, ac maent yn haeddu ymddeoliad cyfforddus a phleserus. Ond mae cynllunio gofalus yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwch fforddio angenrheidiau bywyd a'r pethau sy'n gwneud ymddeoliad yn bleserus.

I ddefnyddio'r teclyn Cael arweiniad ymddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd ac i gael rhagor o arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau, ewch i HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd.

– DIWEDD –

Nol i’r brig

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â MoneyView

MoneyView 2026 yw arolwg blynyddol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol ac yn cynnwys dros 12,000 o oedolion sy'n byw yn y DU.

Roedd hyn yn cynnwys o leiaf 1,000 o bobl yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r arolwg yn ymdrin â chynhwysiant ariannol, biliau, credyd a'r angen am gyngor ar ddyledion, cynilion a gwytnwch ariannol, pensiynau ac ymddeoliad, a hyder a boddhad ariannol.

Mae'n cynnig cipolwg unigryw ar sefyllfa ariannol y boblogaeth a'u teimladau presennol am eu materion ariannol.

Ynglŷn â HelpwrArian

Mae HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cymorth diduedd am ddim ar arian a phensiynau sy'n gyflym i'w ddod o hyd iddo , yn hawdd i'w ddefnyddio ac wedi’i gan y llywodraeth.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig arweiniad clir ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, ac mae hefyd yn cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau dibynadwy os oes angen rhagor o gymorth arnynt.

Lansiwyd HelpwrArian ym mis Mehefin 2021 fel gwasanaeth i ddefnyddwyr, er mwyn cynnig arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau.

Mae'n dwyn ynghyd gymorth a gwasanaethau tri o gyn-ddarparwyr arweiniad ariannol a gefnogwyd gan y llywodraeth: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Nol i’r brig

Ymholiadau cyfryngau

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd.

Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian. Yma i helpu rhoi pobl mewn rheolaeth o’u harian, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd / 0800 138 7777.

Nol i’r brig
Pob datganiad i'r wasg Pensiynau HelpwrArian

Ymholiadau’r cyfryngau

Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: 

020 8132 5284Yn agor mewn ffenestr newydd

media@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • X Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.