Published on:
06 Chwefror 2026
Mae ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi canfod bod dynion sengl 18-34 oed yn llai tebygol o weld arwyddion allweddol sgam rhamant o'i gymharu â grwpiau demograffig eraill.
Mae ymchwil newydd gan MaPS wedi canfod fod dynion ifanc, sengl yn llai tebygol o adnabod arwyddion sgam rhamant o'i gymharu â grwpiau demograffig eraill gan gynnwys menywod sengl 45 oed a hŷn, y grwp sy’n aml yn cael eu hystyried fwyaf mewn perygl.
Mae'r arwyddion mwyaf cyffredin o sgam rhamant yn cynnwys amharodrwydd i gwrdd yn bersonol, siarad dros y ffôn neu sgwrs fideo; gofyn am gymorth ariannol yn gynnar yn y berthynas, a chael proffil rhamant hynod ddeniadol, gan gynnwys lluniau deniadol iawn a gyrfa drawiadol.
O'r cyfanswm arolwg o 2,000 o oedolion, dywedodd saith o bob deg eu bod yn gallu adnabod sgam rhamant, ond methodd y mwyafrif ag adnabod arwyddion pendant sgam o’r restr ohonynt. Dim ond 14% a ddywedodd y gallai bod yn hynod ddeniadol fod yn arwydd. Dim ond 18% a ddywedodd bod cael proffil rhamant trawiadol iawn yn arwydd, ac roedd llai na hanner (44%) yn gwybod bod gofyn i gadw'r berthynas yn gyfrinach yn arwydd rhybudd.
Nododd tua un o bob pedwar oedolyn (26%) fod perthynas sy'n datblygu’n ddifrifol yn gyflym iawn yn arwydd pendant.
Roedd dynion sengl ifanc rhwng 18 a 34 oed yn arbennig o debygol o golli arwyddion rhybudd allweddol o sgam:
Meddai George Brown, arweinydd diogelu defnyddwyr yn MaPS:
"Yn anffodus, mae sgamiau rhamant yn fath cyffredin o sgam ond nad ydynt yn cael eu hadrodd yn aml, a'r peth olaf rydyn ni eisiau ei weld yw pobl yn colli arian o ganlyniad i hyn ar ddydd Sant Ffolant.
"I wneud yn siŵr eich bod chi'n syrthio am gariad gwirioneddol ac nid twyll, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod rhai o'r arwyddion. Byddwch yn wyliadwrus am amharodrwydd i gwrdd yn bersonol neu siarad dros y ffôn, proffil sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir - fel swydd gyffrous neu anarferol, neu lun trawiadol - neu'r berthynas yn symud yn gyflym iawn.
"Nid oes angen teimlo unrhyw gywilydd neu embaras os mai chi yw'r person yr effeithir arno gan sgam rhamant. Mae'r seiberdroseddwyr a'r sgamwyr hyn yn glyfar a byddant yn defnyddio blynyddoedd o brofiad, straeon emosiynol, templedi llythyrau cariad a thechnolegau newydd i'ch twyllo. Cofiwch, os yw'n edrych, yn ymddangos neu'n teimlo'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg o fod yn hynny.
"Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn darged i dwyll rhamant, beth bynnag rydych chi'n ei wneud, peidiwch ag anfon unrhyw arian. Yn lle hynny, rhowch wybod i Report Fraud a ffoniwch Uned Troseddau Ariannol a Sgamiau HelpwrArian ar 0800 015 4402."
Ewch i wefan HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd a Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth am sgamiau rhamant, gan gynnwys sut i adnabod yr arwyddion a chael help.
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: