Yn dilyn digwyddiadau gwrando yng Nghymru a ledled y DU, lansiodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol ar ddechrau 2020. Ers hynny, mae MaPS wedi bod yn cydlynu cynigion ar gyfer Cynllun Cyflawni i Gymru, gyda chyfraniad gan dros 90 o randdeiliaid.
Cynlluniwyd y Strategaeth i ddod â phartneriaid ynghyd i drawsnewid lles ariannol y wlad mewn degawd.
Y canlyniad yw cynllun a gyd-gynhyrchwyd gyda Llywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â mentrau ymarferol a chyflawnadwy a all wneud gwahaniaeth i bobl sy’n gwneud y gorau o’u harian nawr ac yn y dyfodol.
Mae Cynllun Cyflawni Cymru yn ystyried effaith pandemig Covid-19 a sut y gallwn gydweithio i sicrhau newid hirdymor a pharhaol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r economi yng Nghymru.
Darganfyddwch fwy am Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol a lawrlwythwch ein nodau cenedlaethol y DU 2020-2030Yn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 11MB)
Bydd yr adroddiad cynnydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob chwe mis a bydd yn gweithio i gofnodi’r gweithgaredd y mae rhanddeiliaid yn ei gyflawni i gyfrannu at y gweithgareddau sy’n cael eu blaenoriaethu yng Nghymru a’r DU.
Mae’r cynlluniau ar eich cyfer chi os oes gennych ddiddordeb mewn ysgogi newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl, darparu rhaglenni, gwasanaethau neu gefnogi cwsmeriaid gyda’u harian, ac os ydych am ddysgu mwy am sut y gall eich sefydliad chwarae ei ran i sicrhau canlyniadau llesiant ariannol cryfach ar gyfer bobl ledled Cymru.
Mae adroddiadau cynnydd yn darparu manylder pellach ar flaenoriaethau penodol yng Nghymru.
Maent yn rhestru’r ymrwymiadau allweddol ar flaenoriaethau mwyaf brys a adnabyddir yng Nghynllun Cyflawni Cymru gyda gweithgareddau sydd wedi cael eu cwblhau hyd yn hyn.
Adroddiad cynnydd diweddaraf
Mae ein hadroddiad cynnydd Gaeaf 2024 yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd y blaenoriaethau hyn, hyd at fis Tachwedd 2024.
Adroddiadau cynnydd blaenorol