Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
      • Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Llofnodwch y siarter cynilion

Mae’r Siarter Cynilion yn gyfres o ymrwymiadau y gall darparwyr cynilion ymrwymo iddynt, er mwyn helpu i godi proffil cynilion yn y DU. Mae'n rhan o Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol a gydlynir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

  • Beth yw'r Siarter Cynilion?
  • A yw'r Siarter Cynilion yn addas ar gyfer fy sefydliad?
  • Pum ymrwymiad allweddol y Siarter Cynilion
  • Sut i ddod yn llofnodwr
  • Sut y gwnaethom greu'r siarter cynilion

Beth yw'r Siarter Cynilion?

Mae'r Siarter Cynilion yn cynnig cyfle i ddarparwyr cynilion ymhelaethu ar yr hyn y maent eisoes yn ei wneud i godi proffil cynilo ac i ddangos yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud, yn unol ag un neu fwy o bum ymrwymiad.

Gall ymdrech gyfunol y diwydiant y tu ôl i'r nod cyffredin hwn helpu i adeiladu Cenedl o Gynilwyr.

Helpu i adeiladu sicrwydd ariannol trwy gynilion

Adeiladu Cenedl o Gynilwyr yw un o ymrwymiadau craidd Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. Mae’r Strategaeth, sy’n cael ei chydgysylltu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn dod â phartneriaid o bob sector ynghyd i wella lles ariannol poblogaeth y DU.

Dros 10 mlynedd, y nod yw cynyddu nifer y cynilwyr rheolaidd sydd o oedran gweithio ac ar incwm isel-i-gymedrol gan ddwy filiwn. Mae’r Siarter Cynilion yn un o’r ffyrdd yr ydym yn ceisio cyflawni hyn drwy godi proffil cynilo mewn cydweithrediad â banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd a darparwyr technoleg ariannol.

A yw'r Siarter Cynilion yn addas ar gyfer fy sefydliad?

Mae croeso i unrhyw ddarparwr cynilion ymuno.

Rydym yn cydnabod y gall fod gan ddarparwyr cynilion gwsmeriaid sydd y tu hwnt i oedran gweithio ac ar incwm isel-i-gymedrol, fodd bynnag, gofynnwn i’r llofnodwyr roi sylw dyladwy i gynilwyr o’r boblogaeth darged hon wrth ystyried ymrwymiadau’r Siarter Cynilion.

Drwy lofnodi’r Siarter Cynilion gallwch ddangos bod eich sefydliad wedi ymrwymo i helpu pobl i gynilo, a’i fod yn rhan o fenter diwydiant cyfan i adeiladu Cenedl o Gynilwyr.

Pum ymrwymiad allweddol y Siarter Cynilion

Gall darparwyr cynilion ymrwymo i unrhyw un neu bob un o'r pum ymrwymiad. Rydym yn cydnabod efallai y bydd rhai am ganolbwyntio ar un neu fwy o ymrwymiadau yn hytrach na phob un o’r pump ar y dechrau.

Dangos yn gyhoeddus ymrwymiad i adeiladu sicrwydd ariannol trwy gynilion

Dylai darparwyr cynilion ddangos eu hymrwymiad i gefnogi defnyddwyr i gynilo drwy eu gweithredoedd cyhoeddus a’u huchelgeisiau datganedig.

Dylent ystyried a bod yn sensitif i bwysau ariannol wrth ymgysylltu â chwsmeriaid, yn enwedig y rhai ar incwm isel-i-gymedrol sydd â'r modd a'r awydd i feithrin rhywfaint o wytnwch ariannol drwy gynilo rheolaidd.

Cefnogi unigolion i gynilo trwy ddeall eu sefyllfa a’u nodau ariannol

Dylai darparwyr cynilion wneud y defnydd gorau o ddata, AI ac arloesedd i annog cwsmeriaid, yn enwedig y rhai ar incwm isel-i-gymedrol, i ystyried cynilo rheolaidd yn unol â'u hanghenion a'u nodau.

Mae hyn yn cynnwys profi dulliau cynilo arloesol – megis awto-gynilo, cynlluniau benthyciadau i gynilion neu grynodebau cynilo – cyn eu cyflwyno’n llawn i segmentau cwsmeriaid targed.

Rhoi mynediad i bobl at eu byffer cynilion pan fydd ei angen arnynt

Dylai darparwyr cynilion ystyried anghenion a gwendidau cwsmeriaid, yn enwedig ar gyfer y rheini ar incwm isel-i-gymedrol neu sy’n wynebu ansicrwydd ariannol yn dilyn digwyddiad bywyd negyddol, drwy wneud cynilion sydd wedi’u cronni mewn cronfa glustogi argyfwng mor hawdd â phosibl i’w defnyddio ar adegau o angen.

Rhoi gwybod i gwsmeriaid am eu cynilion a'u hopsiynau fel cwsmeriaid

Dylai darparwyr cynilion barhau i feithrin gwytnwch ariannol ymhlith eu cwsmeriaid sydd eisoes yn cynilo’n rheolaidd.

Gallai hyn fod trwy ymgysylltu â chwsmeriaid, o fewn cwmpas y Ddyletswydd Defnyddwyr, i chwilio am enillion gwell ar eu cynilion neu ystyried symud rhai o'u cynilion i fuddsoddiadau yn unol â'u nodau ariannol newidiol.

Siaradwch am gynilo yn eich cymunedau lleol, a mannau addysg a gwaith

Dylai darparwyr cynilion amlygu lle maent yn hyrwyddo cynilion a gwydnwch ariannol yn y cymunedau lle maent yn gweithredu.

Gallai hyn fod trwy weithgareddau ESG – gan gynnwys gwirfoddoli – mewn addysg ariannol a phartneriaethau lles gyda grwpiau cymunedol neu sefydliadau addysgol wedi’u targedu at segmentau penodol o’r boblogaeth.

Gallai hefyd fod trwy gytundebau sydd ar waith gyda chyflogwyr i gynnig cynlluniau cynilo wedi’u didynnu o’r gyflogres, ochr yn ochr â chynhyrchion ariannol eraill efallai, i’w gweithwyr.

Sut i ddod yn llofnodwr

I fynegi diddordeb mewn arwyddo’r Siarter Cynilion, llenwch y ffurflen hon:

Llofnodi'r Siarter CynilionYn agor mewn ffenestr newydd.

Disgwyliwn i gwmnïau ddangos sut y maent wedi cyflawni eu huchelgeisiau datganedig, gan gynnwys targedau, mewn diweddariadau i'w cynnwys mewn adroddiadau corfforaethol a chyfathrebiadau cysylltiedig.

Sut y gwnaethom greu'r siarter cynilion

Fe wnaethom ymgysylltu â gweithgor bach o ddarparwyr cynilion sy’n cynrychioli banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd a’r diwydiant technoleg ariannol i ddrafftio’r Siarter Cynilion. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y pum ymrwymiad mor gynhwysol â phosibl o'r sector cynilion ac anghenion defnyddwyr.

Gwnaethom ystyried effaith bosibl y Dyletswydd Defnyddwyr, datblygiadau yn y defnydd o dechnoleg ac arloesedd a datblygiadau yn y dyfodol mewn ESG wrth gwblhau'r ymrwymiadau.

Gweler Hefyd

  • Beth yw lles ariannol?
  • Strategaeth y DU am Les Ariannol
  • HelpwrArian

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.