Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw “pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau”.
Rydym yn gorff hyd braich, a gefnogir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gydag ymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod gan bobl ledled y DU arweiniad a mynediad i’r wybodaeth maent eu hangen i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol trwy gydol eu hoes.