Published on:
09 Mehefin 2026
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi gweithio gyda phartneriaid i lansio 'Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam', gan ddisodli'r llyfryn blaenorol 'Eich pensiwn: eich dewisiadau'. Yma, mae Steve Brigden, Golygydd Digidol, yn trafod y canllaw newydd a sut y gall helpu'ch cwsmeriaid neu gydweithwyr.
Mae'r canllaw newydd yn amlinellu'r broses ar gyfer cymryd incwm o bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio – y math mwyaf cyffredin o bensiwn yn y DU.
Gellir cymryd pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio mewn gwahanol ffyrdd, felly mae'r canllaw yn esbonio'r holl opsiynau sydd ar gael a sut i gael rhagor o gymorth i wneud penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau arweiniad Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd am ddim a sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoledigYn agor mewn ffenestr newydd.
Mae'r canllaw yn rhannu'r broses yn 7 cam clir a gweithredadwy – gan gynnwys pryd i ystyried dechrau pob un:
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu unrhyw un sydd â phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU.
Mae'r holl bensiynau personol a sefydlwyd gan unigolion a’r pensiynau mwyaf diweddar a sefydlwyd gan gyflogwyr yn rai cyfraniadau wedi'u diffinio – yn ôl y Rheoleiddiwr Pensiynau, mae dros 31 miliwn o bensiynau gweithle cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DUYn agor mewn ffenestr newydd.
Mae'r camau yn y canllaw yn dechrau o tua 10 mlynedd cyn y byddai rhywun eisiau cymryd eu pensiwn. Mae hyn yn golygu bod y canllaw yn debygol o fod yn fwyaf defnyddiol i'r rhai rhwng 45 a 65 oed, gan mai'r cynharaf y gellir cael pensiwn yw 55 oed fel arfer (yn codi i 57 oed o 6 Ebrill 2028).
Ond efallai y bydd pobl o unrhyw oedran yn ei chael hi'n ddefnyddiol deall sut mae eu pensiwn yn gweithio a'u dewisiadau yn y dyfodol.
Mae darparwyr pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn anfon copi o'r canllaw at eu cwsmeriaid yn awtomatig:
Mae hyn yn rhan o 'becyn deffro' gyda gwybodaeth bwysig arall am bensiwn cwsmer.
Mae cynnwys HelpwrArian yn cael ei ddiweddaru'n barhaus yn seiliedig ar anghenion cwsmeriaid, adborth, ymchwil defnyddwyr a chanllawiau hygyrchedd.
Roedd ’Eich pensiwn: eich dewisiadau’ wedi cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i wneud yn siŵr ei fod yn aros yn gywir, ond roedd y cynnwys a'r dyluniad i raddau helaeth wedi aros yr un fath.
Ar ôl archwilio sut mae'r canllaw printiedig yn cael ei ddefnyddio, a gyda'r dysgu o'n cynnwys digidol wedi'i ailwampio, fe wnaethom brofi enw a chlawr blaen newydd cyn cychwyn ar ailddyluniad llwyr.
Roedd ailstrwythuro'r canllaw fewn i gamau gweithredadwy yn golygu y gallem gael gwared ar ailadrodd a'i gwneud yn haws i’w llywio. Er enghraifft, os derbyniodd cwsmer y canllaw yn 50 oed, efallai y byddant yn dechrau ar gam 1. Os ydyn nhw'n derbyn copi arall yn 55 neu 60 oed, efallai y byddant yn dechrau ar gam 3 neu 4.
Roedd hyn i gyd yn golygu y gellid lleihau'r cyfrif geiriau cyffredinol dros 40%, hyd yn oed ar ôl ychwanegu gwybodaeth am hawlio Pensiwn y Wladwriaeth – nad oedd wedi'i gwmpasu o'r blaen.
Ni fyddai'r canllaw newydd wedi bod yn bosibl heb gymorth a chefnogaeth AegonYn agor mewn ffenestr newydd, a ddarparodd eu harbenigedd a'u hadnoddau profi defnyddwyr am ddim. Roedd hyn yn ein galluogi i wneud newidiadau yn seiliedig ar adborth bywyd go iawn gan gwsmeriaid sy'n derbyn yr hen ganllaw fel rhan o becyn deffro Aegon.
Mae ein canllaw newydd hefyd wedi'i ardystio gan Plain NumbersYn agor mewn ffenestr newydd, sy'n golygu bod ganddo eu cymeradwyaeth ffurfiol fel safon uchel o gyfathrebu. Fe wnaeth eu hadborth ein helpu i wneud yn siŵr bod y canllaw yn hygyrch i gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys unrhyw un nad yw fel arfer yn hyderus gyda rhifedd.
Mae'r canllaw newydd ar gael ar borth archebu canllawiau HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd yn Gymraeg a Saesneg:
Mae copïau printiedig am ddim i unigolion a sefydliadau nid-er-elw. Os ydych chi'n archebu ar ran sefydliad masnachol, gallwch:
Am gymorth, cysylltwch â [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd