Mae gan MaPS ddyletswydd statudol i ddatblygu a chydlynu strategaeth genedlaethol i wella'r addysg ariannol a ddarperir i blant a phobl ifanc yn y DU.
Yn 2020, gwnaethom gyhoeddi Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. Gosododd hyn nod cenedlaethol i ddwy filiwn yn fwy o blant a phobl ifanc dderbyn addysg ariannol ystyrlon erbyn 2030.
Rydym bellach yn cefnogi cynnydd tuag at y nod hwn mewn partneriaeth â'r llywodraeth, gwasanaethau ariannol, elusennau a phartneriaid eraill. Mae hyn yn cynnwys:
Mae ymchwil yn dangos bod y sgiliau, agweddau ac ymddygiadau sydd gennym am arian yn dechrau datblygu o oedran ifanc. Mae'r sgiliau hyn yn tyfu trwy gydol ein plentyndod a'n harddegau, felly gall addysg ariannol o oedran ifanc wneud gwahaniaeth enfawr i'n lles ariannol pan fyddwn yn oedolion.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi dysgu:
Gallwch weld mwy o fewnwelediadau sy'n dangos effaith addysg ariannol yn ein tudalennau ymchwil.
Rydym yn canolbwyntio ar addysg ariannol mewn tri amgylchedd allweddol.
Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn addysg ariannol plant. Fodd bynnag, dim ond 56% ohonynt sy'n teimlo'n hyderus yn siarad â'u plant am arian.
Trwy ein gwefan HelpwrArian i ddefnyddwyr, rydym yn cynnig arweiniad i rieni a gofalwyr ar sut i siarad â phlant am arian, beth bynnag fo'u hoedran. Mae'r arweiniad hyn yn cynnwys awgrymiadau, syniadau a ffyrdd o gael plant i gymryd rhan mewn rheoli arian o ddydd i ddydd.
Er bod llawer o arweinwyr addysg ac athrawon yn cydnabod pwysigrwydd addysg ariannol, dim ond traean o blant a phobl ifanc sy'n gallu cofio dysgu oedd yn ddefnyddiol am arian.
Gall athrawon ac addysgwyr ddefnyddio ein harweiniad ar gyfer ysgolion. Mae ganddo wybodaeth am ymgorffori addysg ariannol a datblygu gallu ariannol plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys:
Rydym yn gwybod bod rhai plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o golli allan ar addysg ariannol neu fod â lefelau is o allu a lles ariannol.
Felly, mae'n bwysig bod gan y rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed yn y gymuned yr hyder, y wybodaeth a'r sgiliau i adeiladu dysgu am arian yn y gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu.
Gall arweinwyr gwasanaeth ac ymarferwyr sy'n gweithio yn y gymuned:
Nod ein rhaglen ymchwil flaenllaw yw adeiladu ein gwybodaeth am:
Rydym yn cynnal arolwg lles ariannol unigryw i blant a phobl ifanc. Mae hwn yn ddadansoddiad cynhwysfawr o allu ariannol plant a phobl ifanc, yn ogystal â'u profiadau o addysg ariannol gartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned.
Os oes gennych gwestiynau pellach, neu os hoffech ddeall mwy am ddarparu addysg ariannol yn eich gwaith eich hun, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn [email protected]