Published on:
14 Mawrth 2024
Nod yr adnodd cefnogol hwn yw helpu ysgolion yng Nghymru i wella'r addysg ariannol y maent yn ei darparu i blant a phobl ifanc.
Nod y deunydd ategol yw helpu ysgolion yng Nghymru i wella'r addysg ariannol y maent yn ei darparu i blant a phobl ifanc.
Wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, mae’r adnodd yn archwilio sut mae dysgu am arian yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru. Mae’n nodi’r camau y gall ysgolion eu cymryd i wella eu darpariaeth, ac yn amlygu’r gwasanaethau a’r adnoddau y gall ysgolion eu defnyddio i’w cefnogi.
Gosododd Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol a Chynllun Cyflawni Cymru nod cenedlaethol i sicrhau bod 90,000 yn fwy o blant a phobl ifanc sy’n cael eu magu yng Nghymru yn cael addysg ariannol ystyrlon erbyn 2030. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd i chwarae eu rhan i gyflawni’r nod.
Bydd y canllawiau’n ddefnyddiol i: arweinwyr ysgol a'u uwch-dimau; arweinwyr cwricwlwm ar gyfer addysg ariannol neu Feysydd Dysgu a Phrofiad perthnasol; ymarferwyr sy'n darparu addysg ariannol; llywodraethwyr ysgol; a gwasanaethau gwella ysgolion a sefydliadau dysgu proffesiynol.
Mae’r deunydd ategol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr ag adnoddau cefnogol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar yr Hwb.