
Wythnos Siarad Arian
- CY£RINACHAU ariannol y DU
- Pam siarad am arian?
- Siarad am arian â ffrindiau a theulu
- Os nad yw’n ddiogel i siarad
Os ydych yn ei chael hi’n anodd siarad am arian, nid ydych ar eich pen eich hun. Dyma pam rydym bob blwyddyn yn annog pobl i fod yn agored am eu cyllidau. Trwy gael sgwrs, gallwch wella’ch lles corfforol, meddyliol, ac ariannol.
Eisiau siarad am arian yn eich sefydliad? Lawrlwytho adnoddau
CY£RINACHAU ariannol y DU
Mae llawer ohonom yn cadw cyfrinachau ariannol diangen rhag y bobl sy’n agosaf atom. Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd.
Ydych yn cadw cyfrinachau rhag eich anwyliaid am:
- cardiau credyd?
- benthyciadau?
- cyfrifon cynilo?
Siarad â rhywun nawr
Mae ein tywyswyr yn cynnig help anfarnol am ddim dros y ffôn, WhatsApp, neu wesgwrs.
Siarad â niPam siarad am arian?
Yn ystod COVID-19 efallai rydym yn agosach nag erioed yn gorfforol i’n teuluoedd agos, ond yn ariannol rydym yn bell oddi wrth rhai o’n anwyliaid o hyd.
Mae effaith y pandemig wedi ei gwneud yn bwysicach byth i ddechrau sgyrsiau am arian.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:
- yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell â llai o risg
- yn mwynhau perthnasau personol cryfach
- yn helpu eu plant i ffurfio arferion arian da gydol oes
- yn teimlo llai o straen a phryder, a’u bod â mwy o reolaeth.
Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.
Siarad am arian â ffrindiau a theulu
Defnyddiwch ein canllawiau ar-lein i’ch helpu i ddechrau sgyrsiau am arian â’ch:
Os nad yw’n ddiogel i siarad
Os yw eich partner neu’ch teulu’n rheoli eich mynediad i’ch arian, neu’n mynd i ddyled yn eich enw, mae’n gamdrin ariannol. Ond nid oes angen brwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Dyma rai o’r pethau gallwch wneud a ble i fynd am help a chymorth.
Chwilio am help arian neu bensiynau?
Mae Pension Wise, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i bobl sydd am siarad am arian a phensiynau.

Canllawiau pensiwn i bobl dros 50 oed gyda phensiwn personol neu bensiwn gweithle.
0800 138 3944 Darganfyddwch fwy
Canllawiau pensiynau diduedd am ddim ar bensiynau gweithle a phersonol i bawb.
0800 011 3797 Darganfyddwch fwy
Canllawiau ariannol, teclynnau a chyfrifianellau i helpu gwella'ch holl arian.
0800 138 0555 Darganfyddwch fwy