Mae Wythnos Siarad Arian (4-8 Tachwedd) yn gyfle gwych i annog sgwrs agored am arian. Darganfyddwch sut y gall eich ysgol helpu plant a phobl ifanc i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ariannol yn ystod Wythnos Siarad Arian a thu hwnt.
Bydd ein pecyn cymorth Wythnos Siarad Arian 2024 ar gyfer ysgolion yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, gyda syniadau ac adnoddau i'ch helpu i gymryd rhan.
Bob blwyddyn rydym yn cynnal Wythnos Siarad Arian i annog oedolion a phlant a phobl ifanc i gael sgyrsiau agored am arian.
Gall fod yn anodd siarad am arian, a gyda llai na hanner y plant yn derbyn addysg ariannol ystyrlon ar hyn o bryd, mae addysgwyr mewn sefyllfa wych i helpu i ddechrau sgwrs.
Rydym yn eich annog i gymryd rhan a defnyddio Wythnos Siarad Arian fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd ar arian yn yr ystafell ddosbarth.
Mae plant yn dechrau dysgu arferion ariannol hanfodol rhwng 3 a 7 oed. Fodd bynnag, mae ein Harolwg Lles Ariannol 2022 yn awgrymu bod llai na hanner y plant rhwng saith ac 17 oed yn derbyn addysg ariannol ystyrlon ar hyn o bryd. Mae tri o bob pedwar athro yn y DU hefyd yn meddwl bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn gadael yr ysgol neu'r coleg heb y sgiliau ariannol sydd eu hangen arnynt.
Mae ein hymchwil wedi dangos bod siarad am arian yn gwneud plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o:
Defnyddiwch y graffeg cyfryngau cymdeithasol, baneri a thempledi hyn i roi gwybod i rieni a gofalwyr a'r gymuned ehangach sut rydych chi'n dathlu Wythnos Siarad Arian. Mae yna hefyd wybodaeth y gallwch ei defnyddio ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, mewnrwyd a chylchlythyrau e-bost.
Gallech rannu ein hadnoddau HelpwrArian gyda'ch rhieni a'ch gofalwyr, gan roi arweiniad iddynt ar sut i siarad â phlant o unrhyw oedran:
Os ydych chi eisiau siarad arian â'ch gweithwyr, bydd ein pecyn cyfranogi Wythnos Siarad Arian 2024 yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.