Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y DU i wella lles ariannol i weithwyr, cwsmeriaid a’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae’n ymwneud â gwneud y gorau o'ch arian o ddydd i ddydd, delio gyda’r annisgwyl, a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. Yn fyr: yn ariannol wydn, yn hyderus ac wedi’i rymuso.