Archwiliwch gyfleoedd newydd am hunanddatblygiad ac ymfyfyrio, yn ogystal â sut y gallwch ddysgu gan eraill sy’n rhoi arweiniad arian.
Ansicr o beth i’w wneud nesaf? Rydym yn argymell gweithio trwy’r dudalen yn llawn, gan ddechrau gydag Ychydig gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Mae’r cyfan yn ddefnyddiol.
1. Dechreuwch ar eich datblygiad gyrfa arweiniad arian yn syth. Ewch i Hwb Cymuned Arweinwyr ArianYn agor mewn ffenestr newydd am ddigwyddiadau dysgu am ddim a mwy. Bydd rhaid i chi ymuno’n gyntaf os nad ydych wedi gwneud yn barod.
2. Mae’r rhaglen Arweinwyr Arian yn cynnig modiwlau e-ddysgu a chymwysterau hyblyg os yw’ch sefydliad yn dod yn bartner rhaglen.
Darganfyddwch fwy am fod yn bartner rhaglen.
3. Gwiriwch ba gyfleoedd dysgu gall eich sefydliad eu cynnig i’ch cefnogi wrth roi arweiniad arian fel rhan o’ch rôl. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar y rhestr o hyfforddiant a chymwysterau sy’n cael eu darparu gan eraill. Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau defnyddio yn gyntaf.
Gwelwch y rhestr hyfforddiant a chymwysterau.
1. Myfyriwch ar eich cyfle diwethaf i ddatblygu eich arweiniad arian. A oedd trwy gwrs hyfforddi, dysgu ar-lein, mentora, hyfforddi, neu fath arall o ddatblygiad proffesiynol parhaus (CPD)?
A oedd yn ddiweddar? A wnaeth gwrdd â’ch anghenion? A oedd unrhyw fylchau? A oes angen i chi ddiweddaru eich gwybodaeth neu sgiliau?
2. Adeiladwch eich cynllun hyfforddi arweiniad arian eich hun. Ewch i Hwb Cymuned Arweinwyr ArianYn agor mewn ffenestr newydd a dewiswch gyfres o ddigwyddiadau sydd i ddod o fewn y misoedd nesaf. Maent i gyd am ddim ac mae’r rhan fwyaf ar-lein. Bydd angen i chi ymuno’n gyntaf os nad ydych wedi gwneud yn barod.
Calendr digwyddiadau ar Hwb Cymuned Arweinwyr ArianYn agor mewn ffenestr newydd
3. Fel rhan o’r Gymuned Arweinwyr Arian, gallwch hefyd ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein am ddimYn agor mewn ffenestr newydd, gan gynnwys recordiadau o ddigwyddiadau blaenorol a gweminarau ymarferwyr. Pam na ychwanegwch y cyfleoedd dysgu hyn i’ch cynllun hyfforddi?
Peidiwch ag anghofio i ymuno â’r rhwydwaith Arweinwyr Arian am ddimYn agor mewn ffenestr newydd. Cofrestrwch heddiw os nad ydych wedi gwneud yn barod. Yna, gallwch ymuno ag unrhyw ddigwyddiad sy’n eich cefnogi yn eich rôl.